Heddlu Gwent yn cyhoeddi enw'r dyn bu farw ym Mlaenafon

Mae dyn 34 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Duane Keen ym Mlaenafon
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi mai enw'r dyn 47 oed bu farw yn Nhorfaen ddydd Gwener oedd Duane Keen.
Mae dyn 34 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn yr achos ac mi fydd yn ymddangos o flaen llys ddydd Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Rhodfa Glan yr Afon ym Mlaenafon yn oriau mân y bore ar 17 Hydref yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu'n ddifrifol.
Bu farw Duane Keen yn y fan a'r lle.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei deulu y "bydd teulu a ffrindiau Duane i gyd yn ei golli'n fawr. Does dim geiriau i fynegi'r hyn rydyn ni fel teulu'n mynd trwyddo."
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Ychwanegodd y teulu bod Duane "yn focsiwr ac ymladdwr MMA gwych gyda llawer o feltiau i'w enw".
"Roedd wrth ei fodd gyda'i gŵn a mynd allan i gerdded gyda nhw.
"Byddai'n helpu unrhyw un oedd ei angen, ac roedd bob amser ar ben arall y ffôn."
Ychwanegon nhw: "Duane, roeddet ti'n seren yn y ring, ond roedet ti'n seren fwy i ni".
Mae'r dyn sy'n cael ei gyhuddo o'i lofruddiaeth yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 20 Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.