Cymru i elwa o gynlluniau Llywodraeth y DU yn y sector ynni glân

Cynlluniau newydd yn arwain at gynnydd o 15,000 o swyddi ychwanegol yn y sector ynni glân yng Nghymru erbyn 2030
- Cyhoeddwyd
Mi fydd pobl ifanc yng Nghymru'n elwa o'r "swyddi da a'r cyflogau uchel" yn y sector ynni glân wrth i gynlluniau newydd Llywodraeth y DU addo hyfforddi a recriwtio mwy o weithwyr, meddai Llywodraeth Cymru.
Bydd y cynlluniau'n arwain at gynnydd o 15,000 o swyddi ychwanegol yn y sector yng Nghymru erbyn 2030, meddai'r llywodraeth - gan ddod â chyfanswm nifer y swyddi i 20,000.
Fel rhan o'r strategaeth, mi fydd un o bump Coleg Rhagoriaeth Dechnegol newydd - a fydd yn "helpu i hyfforddi pobl ifanc ar gyfer rolau hanfodol" - yn cael ei sefydlu yn Sir Benfro.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, y "bydd Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro gwyrdd" gan fanteisio ar swyddi newydd i roi mwy o "arian ym mhocedi pobl."
Mae Reform UK yn dweud bod Llafur Cymru dim ond yn gwasanaethu "pobl gyfoethog mewn dinasoedd mawr", wrth i Blaid Cymru rybuddio bod angen "gofal wrth gredu'r addewidion", a'r Ceidwadwyr Cymreig yn honni mai nhw yw'r unig blaid sydd â chynllun credadwy.
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
Mae Cymru'n anelu i gael ei phweru'n gyfan gwbl gan ynni adnewyddadwy erbyn 2035.
Ddydd Llun mi fydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn trafod cais i godi paneli solar ar gyrion pentref Llanbedrog - ond mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu'r cynllun hwnnw.
O dan y cynlluniau newydd yma gan lywodraeth y DU y swyddi fydd yn cael eu datblygu fwyaf yng Nghymru fydd:
swyddi medrus ym maes adeiladu
gwaith metel
maes electronig a thrydanol
a gweithwyr proffesiynol ym meysydd gwyddoniaeth, ymchwil, peirianneg a thechnoleg.
Mewn datganiad, ychwanegodd Llafur Cymru y bydd gwerth £2.5 miliwn yn cael ei roi tuag at gynllun treilau sgiliau.
"Gallai hyn fynd tuag at ganolfannau hyfforddi newydd, cyrsiau, neu gynghorwyr gyrfaoedd."
Dywedon nhw hefyd mai dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed gan lywodraeth y DU a'r sector preifat ym maes ynni glân - sy'n cynnwys ynni adnewyddadwy a niwclear.
"Mae'r economi ynni glân yn sbarduno cynnydd mewn galw am swyddi diwydiannol da ym mhob rhanbarth a gwlad yn y DU" gyda galw yn benodol am ragor o swyddi fel "plymwyr, trydanwyr a weldwyr".
'Yn edrych i'r dyfodol'
"Mae Cymru'n falch o'i threftadaeth ddiwydiannol," meddai Eluned Morgan.
"Ein glo oedd yn pweru'r byd ac mae ein cymunedau'n dal i ymfalchïo yn yr etifeddiaeth honno.
"Nawr rydym yn edrych i'r dyfodol ac at ddiwydiannau'r dyfodol."
Aeth Prif Weinidog Cymru ymlaen i ddweud bod arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, am i Gymru "gymryd camau yn ôl".
Ychwanegodd bod Plaid Cymru'n dweud eu bod am weld targedau sero net ond yn "ceisio rhwystro seilwaith a allai gyflawni hynny".
Ymateb y gwrthbleidiau
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Reform UK yng Nghymru fod Llafur Cymru wedi cefnu ar nifer o ardaloedd a dim ond yn "gwasanaethu grŵp bach o bobl gyfoethog sy'n byw mewn dinasoedd mawr".
Ychwanegodd nad ydy'r "cyhoeddiadau yma'n twyllo unrhyw un sydd wedi cael eu hanwybyddu gan Lafur".
"Bydd Reform yn dod â diwydiant ac arian yn ôl i'r cymunedau y mae Llafur wedi'u gadael ar ôl yma yng Nghymru" ychwanegodd.
Yn ôl Luke Fletcher o Blaid Cymru dyw "addewidion o swyddi newydd yng Nghymru ddim yn ddim byd newydd" ond bod angen gofal wrth eu credu.
"Pan mae Llywodraeth y DU yn sôn am 15,000 o swyddi ynni glân yng Nghymru, mae angen inni gael tryloywder o ran y modelu, gan gynnwys esboniad ynghylch sut y daethon nhw at y ffigur yma."
Ychwanegodd eu bod yn croesawu'r newyddion am ganolfan newydd yn Sir Benfro ond eu bod "yn credu, os ydyn ni wir eisiau manteisio ar y newid ynni, mae angen rheolaeth lawn ar Gymru dros ei hadnoddau a'i seilwaith.
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fe ddywedodd Samuel Kurtz eu bod yn croesawu swyddi newydd yn y sector a'i fod yn rhywbeth "sefydlodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar draws Cymru".
Ychwanegodd, er gwaethaf y polisi newydd, bod "diweithdra'n parhau i gynyddu, ac anweithgarwch economaidd yn lleihau" yng Nghymru.
"Mae'n amlwg mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun credadwy, gyda'r costau i dorri trethi a chodi beichiau diangen oddi ar ein gyrwyr twf economaidd: sef pobl a busnesau gweithgar."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.