Terry Boyle a Peter Nicholas yn gadael eu swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Castell-nedd a'u tîm rheoli wedi gwahanu wedi dim ond pum mis.
Penodwyd Peter Nicholas a Terry Boyle yn rheolwyr wrth i'r tîm benderfynnu bod yn llawn amser yn gynharach eleni.
Y chwaraewr canol cae Kristian O'Leary sydd wedi cael ei benodi fel hyfforddwr dros dro.
Mae Castell-nedd yn bedwerydd yn y tabl ar hyn o bryd, ond mewn datganiad dywedodd y clwb "y byddai o fudd i'r clwb i ddod o hyd i reolwr newydd".
Sibrydion
Ychwanegodd y datganiad fod bob chwaraewr wedi cael eu talu wedi i fusnes y cadeirydd Geraint Hawkes fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Ers troi'n llawn amser mae'r clwb wedi gwario llawer o arian ar chwaraewyr gan ddenu O'Leary, cyn ymosodwr Wrecsam ac Abertawe Lee Trundle a cyn chwaraewr dan-21 Cymru Matty Collins o Abertawe.
Mae Castell-nedd saith pwynt y tu ôl i'r Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl, ond aiff datganiad y clwb ymlaen i ddweud:
"Er i ni newid i fod yn llawn amser, mae'r bwrdd yn teimlo nad yw'r canlyniadau na pherfformiadau y tymor hwn yn adlewyrchu hynny.
" Mae Kristian O'Leary wedi cytuno i gymryd yr awenau gyda'r tîm cyntaf dros dro tan y bydd penderfyniad yn cael ei wneud am strwythur rheoli'r clwb yn y dyfodol.
"Ar nodyn gwahanol, ac yn groes i sibrydion ar hyn o bryd, gall y clwb gadarnhau fod pob un o'r chwaraewyr wedi cael eu talu hyd yn hyn."