Rhyddhau bachgen ar fechnïaeth wedi i ddynes farw mewn tân

Digwyddodd y tân ar Ffordd Henllys am tua 20:40 nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 17 oed, gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bu farw dynes 75 oed mewn tân eiddo yng Nghwmbrân, ar Ffordd Henllys yn St Dials am 20:40 nos Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu y bydden nhw, ynghyd â'r Gwasanaeth Tân ac Achub, yn cynnal ymchwiliad yn y safle dros yr ychydig ddyddiau nesaf.
Ychwanegodd Heddlu Gwent fod eu cydymdeimladau gyda theulu'r ddynes a bod eu hymholiadau yn parhau.
"Mae'r tîm ymchwilio wedi ymrwymo i sefydlu'r amgylchiadau llawn wnaeth arwain at y tân," meddai Uwch-arolygydd yr heddlu, Laura Bartley.
"Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau, stopiwch a siaradwch gyda'n swyddogion."
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl