Cofio ymroddiad 'aruthrol' nith y newyddiadurwr Gareth Jones
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-feddyg a dreuliodd flynyddoedd ei hymddeoliad yn ymchwilio i fywyd a gwaith newyddiadurwr Cymreig gafodd ei lofruddio yn 1935 ar drothwy ei benblwydd yn 30 oed.
Roedd Dr Siriol Colley, a fu farw ddydd Sul yn 86 oed ar ôl brwydro gyda chanser am dair blynedd, yn nith i'r newyddiadurwr Gareth Jones a geisiodd danlinellu erchyllterau'r newyn dychrynllyd yn Yr Ukrain yn ystod y 1930au.
Bu Dr Colley - merch chwaer Gareth Jones, Eirian Jones a fu farw yn 101 oed - yn feddyg teulu yn ardal Bramcote, Swydd Nottingham.
Ar ôl ei hymddeoliad, cyhoeddodd Dr Colley ddwy gyfrol ar fywyd a gwaith ei hewythr, a bu'n darlithio yn gyson ar y pwnc.
Yn ystod yr haf eleni, fe wnaeth ei theulu gyflwyno dyddiaduron Gareth Jones i'r Llyfrgell Genedlaethol.
'Trawsnewid y sefyllfa'
Dywedodd J. Graham Jones, cyfarwyddwr Yr Archif Wleidyddol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol: "Cyn ymchwil Dr Siriol Colley, roedd Gareth Jones wedi mynd yn angof, gyda fawr neb yn cofio am ei fodolaeth a'i gyfraniad.
"Fe wnaeth hi ymroi'n aruthrol, gan fynd i lawer o drafferth ac ymdrech.
"Ac fe lwyddodd i drawsnewid y sefyllfa, gan ddod ag ef nôl i amlygrwydd," ychwanegodd Dr Jones.
Roedd Gareth Jones yn un o'r newyddiadurwyr gorllewinol cyntaf i adrodd am Newyn Mawr 1932-33 yn Yr Ukrain, yr Holodomor.
Oherwydd dygnwch Stalin i gael ei ffordd gyda'i Fesur Pum Mlynedd o Gyfunoli y bu'r newyn yn yr Ukrain a laddodd rhwng pump a 10 miliwn o boblogaeth y wlad rhwng 1932 a 1933.
Roedd Gareth, a fagwyd yn Y Barri, yn benderfynol pan wnaeth ymweld â'r wlad i addysgu'r byd o'r hyn oedd yn digwydd yno.
Roedd ei fam, Annie Gwen Jones, wedi gweithio i deulu John Hughes am dair blynedd yn yr Ukrain ac mae'n debyg bod ei diddordeb yn y wlad a'r iaith wedi ei drosglwyddo i'w mab.
Cafodd Gareth ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth a dysgodd Rwsieg cyn mynd allan i'r Ukrain.
Yno daeth wyneb yn wyneb ag amgylchiadau trychinebus ac yn 1933, ar ei drydydd ymweliad, penderfynodd ysgrifennu cyfres o erthyglau i amlygu'r hyn oedd yn mynd ymlaen yno.
Llofruddio
Cafodd nifer o'i erthyglau, oedd yn datgelu troseddau'r Bolshevik yn erbyn dynoliaeth, eu hatal ac fe gafodd ei ddirmygu a'i wawdio gan ei gydweithwyr a oedd yn gwadu'r hil-laddiad.
Cafodd ei lofruddio yn 1935, mewn amgylchiadau amheus yn ôl ei deulu, ym Mongolia wrth iddo ymchwilio i fwriad Japan i ehangu ei thiriogaeth.
Wedi 16 niwrnod yn nwylo'r Chiniaid cafodd ei ladd, ar drothwy ei benblwydd yn 30 oed.
Cafodd plac ei ddadorchuddio yn 2006 yn Yr Hen Goleg yn Aberystwyth lle bu Gareth yn fyfyriwr i gofio am ei gyfraniad.
Yn ystod y seremoni, dywedodd llysgennad yr Ukrain, Ihor Kharchanko: "Dylai gael ei weld fel arwr am yr hyn a wnaeth ac am roi ei fywyd mewn perygl."
Roedd Dr Colley yn wraig weddw, ac mae'n gadael pedwar mab - Graham, Richard, Nigel a Philip - a nifer o wyrion.