Mewn llun: Atgofion am Gary SpeedCyhoeddwyd27 Tachwedd 2011Disgrifiad o’r llun, Gary Speed MBE 1969-2011: Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cadarnhau fod rheolwr y tîm cenedlaethol wedi marw yn 42 oed. Enillodd 85 o gapiau i GymruDisgrifiad o’r llun, Chwaraeodd Speed ei gêm gyntaf i Leed yn 19 oed. Roedd yn aelod o'r tîm enilodd y bencampwriaeth yr hen Adran Gyntaf yn 1992 cyn i'r Uwchgynghrair ddechrau y tymor canlynolDisgrifiad o’r llun, Chwaraeodd Speed ei gêm gyntaf i Gymru yn 20 oed yn erbyn Costa Rica yn 1990. Yma mae'n chwarae yn erbyn Gwlad Belg yn 1993Disgrifiad o’r llun, Gadawodd Speed Leeds am Everton yn 1996 am £3.4m. Aeth ymlaen i fod yn gapten clwb Goodison ParkDisgrifiad o’r llun, Newcastle oedd trosglwyddiad nesaf Speed am £5.5m yn 1998. Mewn chwe blynedd yn y gogledd-ddwyrain fe chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan yr FA ddwywaith ac ymddangos yng Nghynghrair y PencampwyrDisgrifiad o’r llun, Treuliodd Speed bedair blynedd gyda Bolton o 2004. Ef oedd y chwaraewr cyntaf i chwarae 500 o gemau yn yr UwchgynghrairDisgrifiad o’r llun, Ymddeolodd Speed o bêl-droed rhyngwladol yn 2004 - yr un adeg ag y gadawodd Mark Hughes ei swydd fel rheolwr y tîmDisgrifiad o’r llun, Daeth ymddangosiad olaf Speed i Gymru yn 2004 yn erbyn Gwlad Pwyl yn Hydref 2004. Sgoriodd saith gol mewn 85 ymddangosiad - record i chwaraewr allanol - a bu'n gapten 44 o weithiauDisgrifiad o’r llun, Yn Ionawr 2008, aeth Speed i Sheffield United am £250,000 ond ymddeolodd o bêl-droed yn 2010Disgrifiad o’r llun, Cafodd Speed ei gyfle fel rheolwr yn Sheffield United yn Awst 2010Disgrifiad o’r llun, Yn Rhagfyr 2010, cafodd Speed ei benodi yn reolwr Cymru fel olynydd i John ToshackDisgrifiad o’r llun, Gêm olaf Speed gyda Chymru oedd y fuddugolaieth o 4-1 yn erbyn Norwy ar Dachwedd 12.Disgrifiad o’r llun, Roedd pêl-droedwyr, rheolwyr, gwleidyddion a'r cyhoedd yn talu teyrngedau lu i Speed - un o fawrion pêl-droed yng Nghymru - wrth glywed am ei farwolaeth ddydd Sul