'Yn fwy anodd cystadlu am le?'
- Cyhoeddwyd
Mae aelod Tîm Reslo Cymru wedi cwyno bod tramorwyr yn cael lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd ar draul pobl fel hi.
Ond yn ôl Cymdeithas Reslo Prydain, mae denu athletwyr o safon yn hanfodol er mwyn datblygu'r gamp.
Eisoes mae papurau'r Sul wedi cyfeirio at athletwyr sydd erbyn hyn yn gwisgo lliwiau Prydain er eu bod wedi cystadlu ar lefel ryngwladol dros o leiaf un wlad arall.
Nod Sarah Connolly o Faesteg, gynrychiolodd ei gwlad yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010, yw cystadlu dros Brydain ar lefel Olympaidd.
Mae wedi honni bod y ffaith fod aelodau o'r Rhaglen Reslo Safon Fydeang ym Manceinion o Fwlgaria a'r Iwcrain yn ei gwneud hi'n anoddach iddi gael lle yn y tîm.
'Pasport'
"Mae ychydig o chwaraewyr, fi'n credu tua pump i gyd - rhai yn fechgyn a rhai yn ferched," meddai.
"Os y'n nhw'n ca'l pasport maen nhw'n gallu cynrychioli Prydain ... ond dyw hynny ddim wastad yn beth da.
"Mae tîm Prydain wedi dweud bod nhw ddim ishe pobl sy wedi cael 'u geni ym Mhrydain, rhai alle golli, os gall y rhai o'r Iwcrain a Bwlgaria ennill medal i ni."
Mae'r gymdeithas wedi dweud y cafodd yr athletwyr o dramor eu denu i Fanceinion er mwyn datblygu safon fyd-eang.
'Mynd â llefydd'
Dywedodd y prif weithredwr, Colin Nicholson, nad oedd pawb yn cyrraedd y safon angenrheidiol - ac nad pwrpas y Gemau Olympaidd oedd rhoi cyfle i bobl gael blas ar y cystadlu.
"Wy'n dod ymla'n yn dda gyda'r rhai o Iwcrain a Bwlgaria," meddai Sarah.
"Maen nhw'n bartneriaid hyfforddi da iawn ac wedi gwella 'y nhechneg i.
"Ond mae'n nhw'n mynd â llefydd rhai sy wedi cael eu hyfforddi yn y peder gwlad."
Dywedodd y gymdeithas nad oedd cyfyngu ar y nifer oedd yn aelod o'r rhaglen reslo ac felly nid oedd neb wedi mynd â lle Sarah.