Adolygiad fforensig newydd i lofruddiaeth mam a dwy ferch yn 1995

Bu farw Diane Jones a'i dwy ferch fach, Shauna a Sarah-Jane Hibberd, yn dilyn tân bwriadol yn eu cartref yn 1995
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi adolygiad fforensig i lofruddiaethau mam a'i dwy ferch ym Merthyr Tudful 30 mlynedd yn ôl.
Bu farw Diane Jones a'i dwy ferch ifanc, Shauna, 2, a Sarah-Jane Hibberd, 13 mis, pan gafodd tân ei gynnau yn fwriadol yn eu cartref ar stad y Gurnos, Merthyr Tudful yn 1995.
Mae Heddlu De Cymru'n dweud y bydd technoleg a thechnegau fforensig newydd yn cael eu defnyddio fel rhan o'r adolygiad i'r hyn ddigwyddodd 11 Hydref 1995.
Mae'n rhan o adolygiad ehangach o nifer o achosion hanesyddol yn ne Cymru sydd dal heb eu datrys.
Bydd dulliau fforensig newydd sydd "heb fod ar gael o'r blaen" yn cael eu defnyddio, yn ôl y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Davies o'r Uned Adolygiadau.

Rhes o flodau a theganau meddwl yn tu allan i'r tŷ wedi marwolaethau Diane Jones a'i phlant
Fe gafodd cyrff Diane a'i phlant eu darganfod gan ddiffoddwyr tân yn y tŷ ar ôl i danwydd gael ei arllwys drwy'r blwch llythyrau a'i gynnau.
Yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol, cafodd tair menyw leol - Donna Clarke, ei modryb Annette Hewins a Denise Sullivan - eu harestio mewn cysylltiad â'r achos.

Cafodd Annette Hewins ei charcharu ar gam yn 1996
Cafodd Annette Hewins ei charcharu am 13 mlynedd yn 1997, ond wedi apêl, fe gafodd yr euogfarn ei dileu yn 1999, ar ôl iddi dreulio dwy flynedd a hanner dan glo.
Bu farw ym mis Chwefror 2017, lai na 24 awr ar ôl iddi symud i uned iechyd meddwl.
Cafodd euogfarn Donna Clarke ei diddymu ym mis Ebrill 1999.
Cafodd Denise Sullivan ei charcharu am bedair blynedd am wyrdroi cwrs cyfiawnder, ond fe gafodd ei dedfryd ei lleihau i dair blynedd a hanner ar apêl.
'Dydy hi byth yn rhy hwyr'
"Anfonodd yr achos trist hwn don o syndod drwy Gurnos ac mae wedi bod yn gwmwl dros y gymuned ers hynny," meddai Gareth Davies.
"Ein gobaith ydy y gallwn ni ddarganfod tystiolaeth newydd fydd yn ein galluogi ni i ddod o hyd i bwy oedd yn gyfrifol."
Mae'r adolygiad yn rhan o ymdrechion yr heddlu i ail-archwilio achosion hanesyddol.
Fe gafodd adolygiad fforensig i lofruddiaeth Sandra Phillips yn Abertawe yn 1985 ei gyhoeddi fis Medi.

Mae'r heddlu'n gobeithio y bydd dulliau fforensig newydd yn taflu goleuni ar yr achos, medd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Davies
Mae'r heddlu'n gobeithio y bydd treigl amser yn gallu helpu i ddatrys y llofruddiaethau adnabyddus.
"Rwy'n hyderus bod rhywun allan yna gyda gwybodaeth, a'u bod wedi dewis peidio â rhannu'r wybodaeth am beth bynnag reswm," meddai'r DBA Gareth Davies.
"Mae tri degawd wedi mynd heibio - efallai bod y person hwnnw bellach mewn amgylchiadau gwahanol.
"Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddod â'r wybodaeth yna i'r amlwg."
'Cafodd fy nghalon ei dorri'n filiynau o ddarnau'
Dydy'r teulu erioed wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'r "hunllef" o golli eu hanwyliaid, yn ôl Mary, chwaer Diane Jones.
"Ym mis Hydref 1995, cafodd fy nghalon ei dorri'n filiynau o ddarnau," meddai.
"Fe gollon ni chwaer a'n dwy nith, ond fe dorrodd hyn ein rhieni John a Myra yn llwyr hefyd.
"Rwy'n gobeithio bod rhywun allan yna gyda'r galon i roi'r wybodaeth i'r heddlu a rhoi rhai o'r atebion yr ydan ni eu hangen."
Bydd balŵns yn cael eu rhyddhau er cof am Diane, Shauna a Sarah-Jane ddydd Sadwrn, 11 Hydref, wrth y garreg goffa deuluol yn Gurnos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019