Cigydd Mawr i'w weld yng Nghoedwig Clocaenog
- Cyhoeddwyd
Mae ymwelydd prin i'r DU yn y gaeaf wedi ei weld yng Nghoedwig Clocaenog yn ddiweddar.
Fel arfer, mae'r Cigydd Mawr, aderyn o ogledd Ewrop a Rwsia, yn gaeafa yng nghanol a de Ewrop a Phrydain.
"Mae'n bosib ei weld ym Mhrydain o fis Tachwedd i fis Mawrth," meddai Iolo Lloyd, Rheolwr Cadwraeth a Threftadaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
Y rheswm am yr enw yw ei fod yn ysglyfaethu ar adar bychain fel y dryw ac ar lygod a mamaliaid bychain eraill.
'Brigau uchaf'
"Mae'r aderyn yn hawdd i'w weld yn y goedwig oherwydd mae'n clwydo ar frigau uchaf y coed," meddai Mr Lloyd.
"Ac mae ei faint a'i osgo nodweddiadol yn hawdd iawn ei adnabod."
Rhai o'r mannau mwyaf poblogaidd i ganfod y Cigydd Mawr yw ar ben bryn uchel yng Nghoedwig Clocaenog o'r enw Craig Bron Bannog ac yng nghuddfan y Rugiar Ddu yn Foel Frech.
"Y ffordd orau o weld y Cigydd Mawr yw ymweld â'r mannau agored yng nghoedwig Clocaenog sydd newydd eu plannu neu sydd ag ond ychydig o goed," meddai Mr Lloyd.
Mae'n un o lawer o adar ysglyfaethus sydd i'w gweld yng nghoedwig Clocaenog, gan gynnwys llu o rywogaethau eraill y goedwig megis y gylfin groes, pila gwyrdd, gïach, cyffylog, cigfrain a thylluanod.