Galw am adfer llong sydd wedi bod ar dir sych ym Mostyn

  • Cyhoeddwyd
Llong y Duke of Lancaster ym Mostyn, Sir y FflintFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llong y Duke of Lancaster ei rhoi mewn doc sych ym Mostyn ym 1979

Mae mudiad cadwraeth yn galw am adfer tirnod lleol, llong sydd wedi bod yn gorwedd mewn doc sych ar lan aber Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint ers dros 30 mlynedd.

Mae ymgyrch newydd sy'n galw am adfer y Duke of Lancaster ym Mostyn wedi denu cefnogaeth mwy na 800.

Cafodd ei rhoi mewn doc sych ym 1979 a'i hail-enwi'r Fun Ship fel atyniad adloniant gyda bar a stondinau marchnad cyn cael ei chau.

Gofynnwyd am sylwadau perchnogion preifat y llong a'r awdurdod lleol.

Fferi a redodd rhwng Heysham a Belfast yn y 1950-60au oedd y llong, a bu hefyd yn cludo teithwyr rhwng Caergybi a Dun Laoghaire yn Iwerddon am gyfnod.

Wedi hynny bu'n cynnig mordeithiau cyn cyrraedd ei safle presennol ger y ffordd arfordirol rhwng Fflint a Phrestatyn.

Mae'r Duke of Lancaster Appreciation Society yn galw am adfer y llong i'w hen ogoniant.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Fferi ar gyfer ceir a theithwyr oedd y llong ar un pryd

'Yn druenus'

"Mae'n edrych braidd yn druenus ar hyn o bryd," meddai Ashley Gardner o'r mudiad.

"Rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am y llong. Mi fydd raid i ni wneud rhywbeth efo hi.

"Mae'n haeddu cael ei hadfer i'r hyn oedd hi. Yn ddelfrydol, byddai'n wych petawn ni'n medru ei throi hi'n westy," meddai wrth BBC Cymru, gan ychwanegu nad oedd yn disgwyl i'r llong hwylio eto.

"Mae hi angen llawer o waith. Mae angen codi ymwybyddiaeth am y llong a'n cynlluniau."

Dywedodd y perchnogion wrth bapur newydd y Leader yr hoffen nhw weld y llong yn cael ei hadfer, gan ychwanegu efallai y byddai'n bosib sefydlu elusen er mwyn cael grantiau i dalu am y gwaith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol