Un wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr A470

  • Cyhoeddwyd
Damwain A470Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dyn ifanc ei ladd yn y ddamwain ger y Storey Arms ddydd Gwener

Mae dyn ifanc wedi marw ac mae o leiaf un person arall wedi ei anafu ar ôl i gar a lori fod mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Storey Arms fore Gwener.

Digwyddodd y ddamwain am 6:45am rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful.

Cafodd dwy injan dân eu hanfon i'r digwyddiad a dywedodd y Gwasanaeth Tân mai rhew oedd yn gyfrifol.

Bu'n rhaid defnyddio offer arbennig i dorri dau berson o'u cerbydau cyn iddyn nhw gael triniaeth yn y fan a'r lle gan y gwasanaeth ambiwlans.

O safbwynt y tywydd mewn ardaloedd eraill, nid yw Cymru wedi dioddef cynddrwg â'r disgwyl.

Mae ychydig o gawodydd ysgafn o eira wedi disgyn mewn rhannau o Bowys a chymoedd y de, ond dim byd sylweddol.

Ond mae rhybudd gan y Swyddfa Dywydd mai rhew yn hytrach nag eira allai achosi trafferthion yn ystod y dydd.

Mae gwasanaethau bws wedi eu gohirio mewn rhannau o sir Wrecsam oherwydd y tywydd.

Bydd mwy o eira wrth i ffrynt symud tua'r gorllewin yn ystod y dydd, ond yn troi'n law wrth symud gyda'r tymheredd yn cyrraedd dwy radd ar y gororau ond yn fwy ar hyd Bae Ceredigion.