Dyfarnu bod celf o'r Oes Efydd yn drysor
- Cyhoeddwyd
Dyfarnwyd bod celc o'r Oes Efydd, y credir iddo gael ei gladdu tua 1000-800CC, yn drysor gan Grwner Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y celc o 13 gwrthrych efydd, gan gynnwys rhan o freichled, darnau o flaen gwaywffon fawr a bwyell soced gyflawn, ei ganfod yng nghymuned Llanismel, Sir Gaerfyrddin, ar Fehefin 7, 2011.
Roedd Kevin Sawyer yn defnyddio datgelydd metel mewn cae gwair cyn i archeolegwyr Amgueddfa Cymru ei adnabod a pharatoi adroddiad arno.
Gwnaed ymchwiliad archeolegol ac arolwg o'r safle gan archeolegwyr yn gweithio dros y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ac Amgueddfa Cymru.
Blaen gwaywffon
Gwnaed y gwaith hwn gyda chymorth y canfyddwr er mwyn cadarnhau'r man canfod a chyd-destun y claddu, oedd yn awgrymu i'r gwrthrychau gael eu claddu gyda'i gilydd mewn twll bychan.
Dywedodd Adam Gwilt, Curadur y Casgliadau Oes Efydd yn Amgueddfa Cymru: "Drwy hyn a chanfyddiadau diweddar eraill, rydyn ni'n dysgu mwy am y mathau o lefydd yn y dirwedd y byddai celciau o'r Oes Efydd yn cael eu cuddio'n ofalus.
"Mae'r blaen gwaywffon a'r freichled yn dangos y mathau o arfau a dillad personol fyddai'n cael ei ddefnyddio yng ngorllewin Cymru ar y pryd.
"Mae'r deunyddiau crai a'r sgil-gynhyrchion castio yn y celc hefyd yn ehangu ein dealltwriaeth o gastio efydd tua diwedd yr Oes Efydd."
'Casgliad'
Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn awyddus i gaffael y celc hwn wedi iddo gael ei brisio yn annibynnol.
"Rydyn ni'n falch o gael y cyfle hwn i ychwanegu rhywbeth newydd i'n casgliad cynhanesyddol," meddai Gavin Evans, Curadur Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.
"Parhaodd yr Oes Efydd am gannoedd o flynyddoedd ond prin yw'r dystiolaeth sydd gennym am y cyfnod hwnnw yn hanes Sir Gaerfyrddin.
"Mae'n gyffrous meddwl y gallai'r canfyddiad pwysig hwn gael ei gadw yn yr Amgueddfa Sir er mwynhad y gymuned leol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012