Codi ymwybyddiaeth am beryglon croesfannau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd tair o groesfannau rheilffordd de Cymru yn dod i sylw mewn diwrnod arbennig i godi ymwybyddiaeth yn rhyngwladol.
Y tair fydd croesfan Sain Ffagan, Llanelli a Phencoed.
Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Network Rail fydd yn trafod y croesfannau ddydd Iau.
Bwriad Diwrnod Rhyngwladol Codi Ymwybyddiaeth Croesfannau yw cynorthwyo gyrwyr a cherddwyr i fod yn fwy ymwybodol o'r croesfannau ac i'w cynorthwyo i'w defnyddio yn gywir.
Bydd 40 o wledydd yn cynnal gweithgareddau i hyrwyddo diogelwch ger croesfannau.
Bydd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Network Rail yn bresennol ger y croesfannau er mwyn cynnig cyngor a rhannu taflenni fel rhan o raglen addysgu am beryglon croesfannau.
"Mae gyrwyr yn dal i gamddefnyddio croesfannau yn ogystal â cherddwyr," meddai'r Arolygydd Gary Ash o Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Anwybyddu rhybuddion
"Mae 'na hanes o broblemau gyda'r croesfannau y byddwn yn rhoi sylw iddyn nhw heddiw.
"Er gwaetha rhybuddion cyson a gweithredu, mae gyrwyr yn dal i beryglu eu bywydau a bywydau eraill ar y croesfannau.
"Mae'n anhygoel meddwl bod rhai pobl yn dal i beryglu eu bywydau drwy anwybyddu goleuadau rhybudd a'r seiren ac yn mentro dros y groesfan wrth i drên agosáu.
"Addysg yw'r allwedd i bopeth a drwy roi gwybodaeth i bobl am beryglon camddefnyddio croesfannau - a sut i'w defnyddio yn ddiogel - rydym yn gobeithio lleihau nifer yr achosion yno.
"Rydym yn cydweithio yn agos gyda Network Rail yn yr ardaloedd er mwyn gwella gwybodaeth, a lle mae angen, gweithredu yn erbyn y rhai sy'n dal i'w camddefnyddio.
"Fe ddylai'r rhai sy'n diystyru'r gyfraith ac yn anwybyddu'r arwyddion ddisgwyl cael ei herlyn drwy bwyntiau ar eu trwydded yrru, dirwy ac achos llys."