Rhaglen yn ceisio datrys llofruddiaeth Gareth Jones
- Cyhoeddwyd
Bydd rhaglen deledu yn ceisio datrys y diogelwch y tu ôl i lofruddiaeth newyddiadurwr o Gymru ym Mongolia dros 70 o flynyddoedd yn ôl.
Erbyn hyn mae Gareth Jones o'r Barri yn cael ei gydnabod fel arwr yn Wcráin gan iddo ddatgelu erchyllterau'r unben Stalin i'r byd.
Credir bod hyd at 10 miliwn o ffermwyr tlawd wedi llwgu i farwolaeth o ganlyniad i bolisïau bwriadol Stalin yn 1932-33
Cafodd Jones ei eni ym Mro Morgannwg yn 1905 ac aeth ymlaen i astudio Ffrangeg ym mhrifysgol Aberystwyth, ac yna Rwsieg ac Almaeneg yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt.
Ieithoedd
"Roedd Gareth Jones yn gymeriad tebyg i Icarus yn yr hen chwedlau," meddai George Carey, cyfarwyddwr y rhaglen Hitler, Stalin and Mr Jones fydd yn cael ei darlledu ar BBC4 am 9pm ddydd Iau.
"Roedd o'n gwybod pa mor agos i'r haul yr oedd yn hedfan ond roedd o'n methu gwrthod cyfle i siarad yn erbyn pobl oedd yn camddefnyddio grym."
Oherwydd ei ddawn gydag ieithoedd daeth yn un o gynghorwyr arbennig y cyn prif weinidog Lloyd George yn 1930.
Bu'n gohebu yn yr Almaen yn ystod twf Natsïaeth.
Er bod rhai o'i gyfoedion yn honni ei fod yn gefnogol i'r Natsïaid, yn ôl Mr Carey dyw hanes ddim yn cefnogi'r farn honno.
"Mae'n deg dweud iddo ohebu yn ffafriol ar rai o lwyddiannau cynnar y Natsïaid, fel creu swyddi a datblygu'r economi.
"Ond fe oedd un o'r newyddiadurwyr cyntaf i weld fod Gwrth-Semitiaeth yn rhan ganolog o'r mudiad."
Ar ôl yr Almaen trodd Jones ei sylw ar yr Undeb Sofietaidd.
Hygrededd
Oherwydd ei gysylltiad gyda Lloyd George roedd ganddo hygrededd ymhlith gwleidyddion Rwsia, ac roedd ei allu gydag ieithoedd yn caniatáu iddo siarad gyda ffermwyr cyffredin.
Ond newidiodd ei berthynas gydag uwch swyddogion Rwsia ym Mawrth 1933.
Galwodd cynhadledd i'r wasg i ddatgelu'r hyn yr oedd wedi ei weld yn yr Wcráin ar ôl dau fis o newyddiadura cudd.
Roedd y rhan fwyaf o'r wasg yn ddrwgdybus o straeon Jones, a chafodd ef ei hynysu.
Erbyn canol 1933 roedd wedi dychwelyd i fyw yn y Barri gyda'i rieni, a bu'n gohebu gyda'r Western Mail.
Fisoedd yn ddiweddarach clywodd am sgandal rhyngwladol arall.
Roedd milwyr Japan wedi meddiannu Mongolia.
Llwyddodd Jones i gasglu digon o arian ynghyd a theithio i'r wlad.
Aeth yna gyda newyddiadurwr o'r Almaen o'r enw Muller.
Bu'n rhaid i'r ddau ffoi ar ôl dod i gysylltiad gyda milwyr Japan, ond cawsant eu dal gan ladron mewn rhan ddiarffordd o'r wlad
Aneglur
Dywed Mr Carey fod yna anghytuno mawr ynglŷn â marwolaeth Jones.
Mae'n aneglur a gafodd y lladron gymorth gan y Japaneaid neu heddlu cudd Rwsia, yr NKVD
"Rydym yn gwybod yn bendant fod Muller wedi cael ei ryddhau dan amgylchiadau amheus. Ei fod wedi ei rhyddhau er mwyn gallu codi arian pridwerth.
"Dau ddiwrnod ar ôl i Muller gael ei rhyddhau cafodd Jones ei saethu'n farw.
"Mae'n debyg na chawn wybod yn bendant beth ddigwyddodd, ond mae ein hymchwiliadau yn dangos fod dyn Chineaidd wnaeth fenthyg car i Jones a Muller er mwyn teithio i Mongolia yn asiant gyda'r NKVD.
Mae yna dystiolaeth gref hefyd i awgrymu ei bod yn bosib fod Muller hefyd yn asiant."
Pan gafodd Jones ei ladd, roedd wedi colli llawer o'i hygrededd newyddiadurol.
Daeth y gwirionedd am erchyllterau Stalin ond i'r amlwg flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ond heddiw mae Gareth Jones cael ei weld fel arwr yn yr Wcráin, ac mae o hefyd wedi ei anrhydeddu gan brifysgolion Aberystwyth a Chaergrawnt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2011