Robat Gruffudd, Y Lolfa, yn ennill Medal Daniel Owen

  • Cyhoeddwyd
Robat Gruffudd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robat yn rhoi'r £5,000 i fudiad Dyfodol yr Iaith

Mae Robat Gruffudd wedi ennill Medal Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012.

Yn 1967 fe sefydlodd Wasg Y Lolfa yn Nhalybont, Ceredigion.

Dywedodd y beirniaid ei fod yn "nofelydd clyfar sydd wedi rhoi bri ar y gystadleuaeth ac ar y nofel Gymraeg".

Mae ei nofel yn "ddarllenadwy a chrefftus ... a chalon arwyddocaôl yn curo tu ôl i'r stori fyrlymus," medden nhw.

"Yn sicr, mae traed yr awdur yn fwy solet ar y ddaear na'r awduron eraill ac eto mae yr un mor fentrus yn gwibio o Gymru i Ferlin ac i Ynys Mykonos yn ystod y nofel hynod o ddarllenadwy."

Roedd chwech wedi cystadlu a'r dasg oedd llunio nofel nad oedd wedi cael ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Y beirniaid oedd John Rowlands, Gareth F Williams a Sioned Williams a'r tri'n "eithaf cytûn eu barn ar y cyfan" cyn "dyfarniad unfrydol".

'Nofel raenus'

Mae'r nofel fuddugol, Afallon, yn canolbwyntio ar Rhys y prif gymeriad, un sydd wedi gweithio y tu allan i Gymru cyn dychwelyd i ardal Abertawe.

"Mae cefndir y nofel yn un rhyngwladol â chymeriad dwfn," meddai John Rowlands o'r llwyfan.

"Nid nofel yn dilyn yr hen lwybrau Cymreig mo hon ond un sy'n camu'n hyderus o wlad i wlad ac yn arddangos dyfnder seicolegol - ond hefyd ddyfnder gwleidyddol- wrth i Rhys dyfu o ran ei grebwyll deallusol.

"Dyma nofel raenus ei Chymraeg. Ceir portread deallus o ardal Abertawe ...

"Y bonws oedd bod nifer o lefelau i'r nofel hon a'i bod yn taro deuddeg yn ddigon cyson i haeddu'r wobr yn y gystadleuaeth."

Dyma'r ail dro i Robat ennill y wobr a hon yw ei bedwaredd nofel.

Cafodd yr awdur ei fagu yn Abertawe ar aelwyd yr Athro J Gwyn Griffiths a Kate Bosse Griffiths.

Cylchgrawn

Wedyn cafodd ei addysg yn Ysgol Gymraeg Lon Las, Ysgol Ramadeg Yr Esgob Gore a Phrifysgol Cymru Bangor.

Yno enillodd ond gwrthododd radd mewn Athroniaeth a Seicoleg ond camp fwyaf ei gyfnod coleg oedd sefydlu'r cylchgrawn Lol gyda'i gyfaill Penri Jones.

Arweiniodd hynny at sefydlu Y Lolfa ac roedd gan y wasg newydd gynulleidfa barod ymhlith ieuenctid protesgar y cyfnod.

Erbyn hyn mae ei feibion, Garmon a Lefi, yn rhedeg y cwmni.

Mae'r awdur wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, A Gymri di Gymru?

Mae'n briod ag Enid ac mae ganddyn nhw ddau o wyrion, Llŷr ac Esyllt.

Yn ogystal â'r fedal mae'n derbyn £5,000 (£1,000 yn rhodd gan Eglwys Annibynwyr Cyrmaeg, Loveday Street, Birmingham).

Mae'n weithgar gyda Dyfodol yr Iaith, y grŵp pwyso ieithyddol newydd, ac yn cyfrannu'r £5,000 i'r mudiad.