Codi ymwybyddiaeth am ganser wrth gario'r Fflam Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am ganser y coluddyn wrth gario'r Fflam Olympaidd.
Cafodd Dafydd Jones ei enwebu gan yr elusen Beating Bowel Cancer mewn cydnabyddiaeth o'i waith i godi ymwybyddiaeth am y salwch.
Bydd Mr Jones yn cludo'r Fflam yn Llundain.
Cafodd y gŵr sy'n wreiddiol o Borthmadog, ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2009, pan oedd yn 26 mlwydd oed.
"Mae'n anrhydedd mawr i gario'r fflam fel dyn o Gymru drwy strydoedd de Llundain, nid yn unig yn chwifio'r faner dros Gymru, ond ar gyfer yr elusen Beating Bowel Cancer hefyd," meddai.
"Dwi'n awyddus i dynnu sylw at y ffaith y gall ddigwydd i bobl o unrhyw oedran.
"Byddaf yn cario'r Fflam i gynrychioli'r holl fywydau a gollwyd yn greulon i ganser y coluddyn a'r holl arloeswyr anhygoel sydd wedi curo'r clefyd."
'Nerfus iawn'
Mae Mr Jones wedi byw yn Llundain ers 2004 ac mae'n gweithio yn y sector ariannol.
Honnir mai fe yw'r person talaf i gario'r fflam, gan ei bod yn 6'7" o daldra.
"Dwi'n gobeithio ceisio trefnu trowsus hirach i fynd gyda'r wisg maen nhw'n darparu oherwydd ei fod rhyw bum modfedd yn rhy fyr!" dywedodd.
Bydd yn cario'r fflam yn Croydon, de Llundain.
Yno i'w wylio y bydd ei Aelod Seneddol lleol, Tessa Jowell.
"Mae'r gwaith mae Dafydd wedi ei wneud i godi arian at elusen canser y coluddyn yn rhyfeddol," meddai Ms Jowell.
Yn ogystal dywedodd Mr Jones ei fod wedi cael neges o gefnogaeth gan y darlledwr Huw Edwards.
Er yr holl gefnogaeth dywedodd Mr Jones ei fod yn "nerfus iawn".
"Dwi'n gobeithio dwi ddim yn mynd i ollwng y fflam," meddai.
Ond dywedodd ei bod yn falch o gael y cyfle.
"Mae'n neis bod pobl Cymraeg sy'n byw yn Llundain yn cael yr anrhydedd hefyd."
Mae Mr Jones wedi codi tua £8,000 dros Beating Bowel Cancer yn ystod yr 18 mis diwethaf.
Mae'n arwerthu nifer o eitemau, gan gynnwys basged o nwyddau o siop Harrods, ar wefan er mwyn ceisio codi £2,000 arall.
Bydd yn cario'r Fflam ddydd Llun Gorffennaf 23 tua 1.53pm.