Teyrngedau i'r undebwr Tom Jones
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i arweinydd undeb oedd yn flaenllaw yn un o frwydrau undebol hiraf yn hanes Cymru.
Tom Jones oedd trefnydd rhanbarthol undeb y gweithwyr Cludiant - y TGWU - pan fu streic yn hen ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon yn 2001.
Bu'r gweithwyr ar streic am ddwy flynedd a hanner.
Yn 2003 fe wnaeth tribiwnlys diwydiannol benderfynu fod yr 86 o weithwyr oedd yn cynhyrchu cydrannau ceir wedi eu diswyddo yn annheg.
Ond fe aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr yn Awst a ni thalwyd iawndal.
Bythefnos yn ddiweddarach fe wnaeth yna gwmni arall gael ei sefydlu.
Dywedodd Gerald Parry un o gyn weithwyr Friction Dynamics fod Mr Jones wedi eu harwain drwy gydol y streic.
"Fe wnaeth o weithio'n galed gyda'r Undeb a gyda'r anabl.
"Roedd o'n rhoi ei amser i achosion da, roedd ganddo brofiad ac fe wnaeth o ddefnyddio'r profiad yna yn ystod y streic."
Dywedodd Arglwydd Wigley, cyn AC Caernarfon, fod Tom Jones wedi gweithio'n galed gyda'r undeb a'i fod yn golled fawr.
Roedd Mr Jones wedi sefyll yn erbyn Dafydd Wigley mewn etholiadau cyffredinol.
"Fe wnaeth Tom waith anhygoel gyda'r undeb yn enwedig yn ystod cyfnod y streic.
"Er ein bod ni yn perthyn i bleidiau gwahanol roedd y ddau ohonom yn gweithio gyda'n gilydd pan oedd o'n fater o helpu'r ardal."