Hanner canrif ers diwedd taith ola' y Cardi Bach

  • Cyhoeddwyd
Y Cardi Bach
Disgrifiad o’r llun,

Y daith ola' o Hendygwyn i Aberteifi

Mae'n 50 mlynedd ers i drên y Cardi Bach gario teithwyr o Hendygwyn ar Daf i Aberteifi am y tro olaf.

Caeodd y rheilffordd oherwydd cynlluniau Beeching ond mae pentrefwyr Dyffryn Taf, Gogledd Penfro a De Ceredigion ag atgofion melys.

Roedd y rheilffordd yn ddolen gyswllt bwysig i bentrefi diarffordd cefn gwlad gan ei bod yn mynd drwy Lanfallteg, Login ac ymlaen wedyn i'r Glog, Crymych, Boncath, Cilgerran ac Aberteifi.

Ar hyn o bryd mae arddangosfa am hanes y Cardi Bach yn Neuadd Llanfallteg a bydd arddangosfa bellach yn cael ei chynnal yn Neuadd Cilgerran ar Fedi 15, 16 a 17.

Mae Emyr Phillips o Gilgerran yn ymddiddori yn hanes y Cardi Bach.

"Cychwynnodd y rheilffordd yn y lle cyntaf gyda'r nod o gyrraedd Glog ger Crymych a hynny i fynd â'r cynnyrch llechi allan i'r perchennog John Owen.

"Fe oedd wedi meddwl am adeiladu'r rheilffordd o Hendy-gwyn ar Daf i Glog yn y lle cyntaf ac yna ymestyn yr holl ffordd i Grymych ac oddi yno i Aberteifi yn y diwedd.

'Canolbwynt'

"Roedd y gorsafoedd bryd hynny yn ganolbwynt i'r ardal. Roedd y post yn dod gyda'r trên, y papurau yn dod gyda'r trên.

"Ac roedd yna hefyd gymdeithas arbennig yn cwrdd ar y platfform ac roedd y lein yn cynnal y gymdeithas a'r ardaloedd y pryd hynny."

Ym mis Chwefror 1962 hyd yn oed cyn i fwyell Beeching gwympo fe benderfynodd Rheilffyrdd Prydain nad oedd y Cardi Bach yn gwneud digon o arian.

Roedd ymgynghoriad am ddyfodol y gwasanaeth ac Fedi 8 yr un flwyddyn fe deithiodd y trên olaf i deithwyr.

Caeodd y lein nwyddau y flwyddyn wedyn ac fe godwyd y trac yn grwn yn 1964.

Roedd Peter Williams yn gweithio ar y lein rhwng 1957 ac 1962 yng Nghrymych fel portar ac yna fel signal man yn y flwyddyn ola'.

"Ro'dd pobol wedi dod i weld y trên ola nad oedd wedi bod ar y trên o gwbl.

'Llawer o bobol'

"Nhw oedd yn gwneud y mwya o sŵn am eu bod yn gorffen ag e ac ro'dd 'na lawer o bobol ar y platfform yng Nghrymych."

Yn Aberteifi roedd cannoedd yn croesawu'r Cardi Bach ar ddiwedd y daith olaf.

Dywedodd Emyr: "Ry'n ni yng Nghilgerran wedi dadorchuddio'r plac yn yr wythnosau diwethaf i nodi union leoliad yr orsaf.

"Ac mae'r arddangosfa'n cynnwys eitemau o'r lein gyfan nid yn unig y rhan yng Nghilgerran ...

"A dweud y gwir, ry'n ni wedi synnu faint o eitemau sydd yn dal ar gael gan wahanol bobl."