Gwyddonwyr Bangor yn anelu at fand eang 2,000 o weithiau'n gyflymach
- Cyhoeddwyd

Llwyddiant hyd yn hyn: Offer y gwyddonwyr ym Mangor
Sut mae creu cysylltiad band eang cyflymach heb gostau annerbyniol?
Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn credu eu bod ar fin cynnwys llawer mwy o ddata ar hyd gwifrau ffibr optig heb gostau rhy uchel.
Eisoes maen nhw wedi llwyddo i gynnwys 20 gigabit o ddata - cymaint ag 20 ffilm - bob eiliad.
Am ddwy flynedd arall fe fyddan nhw'n ceisio troi hyn yn fenter fasnachol.
Wrth i hyd y gwifrau ffibr optig a'r data gynyddu, mae 'na beryg o fwy o gamgymeriadau a'r opsiynau yw cynyddu nifer llinynnau gwifren, cynyddu'r codau laser a datrys y data digidol.
Tonnau trydan ffisegol
"Y broblem yw y gall hyn gostio llawer o arian," meddai Dr Roger Giddings, un o'r tîm sy'n rhedeg y prosiect.
"Y bwriad yw asesu a oes modd gwneud hyn yn effeithiol yn ariannol, ac yn ymarferol yn fasnachol."

Dr Roger Giddings: Dwy flynedd arall o waith ar y prosiect
Ym Mangor mae'r ymchwilwyr yn troi data craidd yn donnau trydanol ffisegol, cyn ei droi'n signal optig all gael ei lwytho i lawr gwifren gan laser.
Mae'r tîm wedi llwyddo i lunio offer electronig all greu'r cod a datrys y cod sydd ei angen i anfon y signal.
"Mae'n bosib bod llai na 10 o grwpiau drwy'r byd yn ceisio datrys y broblem," meddai Dr Giddings.
"Ond ni yw'r unig grŵp sydd wedi llwyddo i gael system o un pen i'r llall."
Mae'r ffaith eu bod wedi llwyddo i anfon data 20 gigabit yn hwb iddyn nhw anelu at anfon data 40 gigabeit.
Gorau
Y cyflymder gorau yn y DU ar gael i'r cyhoedd yw 1.5 gigabit yr eiliad, yn nwyrain Llundain.
Ond y cyflymder lawrlwytho cyflyma' ar gael ym Mhrydain, yn ôl arolwg gwefan ISPreview ym mis Hydref, ydi 33.4 megabit yr eiliad, 0.17% o'r cyflymder sy'n cael ei gynnig gan y tîm ymchwil ym Mangor.
Yr her iddyn nhw yw troi'r dechnoleg yn y labordy yn realiti am bris derbyniol.
Mae arbenigwyr fel Fujitsu Semiconductors Europe a Sefydliad Fraunhofer Heinrich Hertz yn eu helpu.
"Rydym yn gobeithio y bydd modiwl fydd yn gweithio ar ddiwedd y prosiect," meddai Dr Giddings flwyddyn wedi dechrau'r prosiect.