'Rhoi grym i'r etholwyr' yn ôl Comisiwn Silk
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru wedi dod i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru gael grymoedd i amrywio treth incwm erbyn y flwyddyn 2020.
Yn ôl adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, fel mae'n cael ei alw, fe ddylai Llywodraeth Cymru ddod yn gyfrifol am godi tua chwarter ei chyllideb.
Mae'r adroddiad, Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru, dolen allanol, yn dweud y byddai datganoli grymoedd dros rai trethi yn rhoi nerth yn nwylo'r etholwyr a Llywodraeth Cymru ac yn arwain at fwy o gyfrifoldeb ym Mae Caerdydd.
Mae'n nodi y dylai refferendwm gael ei chynnal i weld a ddylai gweinidogion Cymru gael pwerau newydd yn ymwneud â'r dreth incwm.
Mae'r adroddiad yn cynnwys 33 o argymhellion gan gynnwys datganoli rhai trethi bach megis y dreth stamp, treth tirlenwi a tholl teithwyr awyr.
Cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, sefydlodd y comisiwn dan arweiniad cyn-glerc y Cynulliad, Paul Silk.
Tasg y comisiwn oedd ystyried a ddylai gweinidogion Cymru fod yn fwy atebol am yr arian y maen nhw'n ei wario ac os felly, sut.
Wrth lansio'r adroddiad dywedodd Mr Silk, fod yr hyn sy'n cael ei argymell "yn arwyddocaol ac yn hanesyddol".
Ers 1999 mae'r rhan fwyaf o gyllideb y llywodraeth, sydd ar hyn o bryd yn werth dros £15 biliwn, wedi dod o'r Trysorlys.
Argymhellion
Eglurodd Mr Silk y byddai'r drefn newydd "yn rhoi i Gymru ei system drethu a benthyca ei hun am y tro cyntaf".
"Mae'r comisiwn yn falch iawn o gyflwyno ein hadroddiad i Lywodraeth y DU ac rydym yn gobeithio ei weld yn cael ei roi ar waith yn fuan."
Mae'r comisiwn yn argymell:
Y dylai'r cyfrifoldeb dros dreth incwm gael ei rannu rhwng Bae Caerdydd a San Steffan a dylai Llywodraeth Cymru allu amrywio cyfraddau treth incwm o fewn strwythur treth incwm y DU;
Y dylai trosglwyddo pwerau dros y dreth incwm fod yn amodol ar ddatrys materion ariannu teg mewn ffordd y cytunir arni gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU;
Y dylai datganoli'r dreth incwm fod yn amodol ar refferendwm a dylid cynnwys darpariaethau ar gyfer y refferendwm yn Bil Cymru y dylid ei gyflwyno yn y Senedd hon;
Na ddylid datganoli treth gorfforaeth oni bai ei bod yn cael ei datganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Ond dylai Cymru gael mwy na'i chyfran ar sail poblogaeth o Barthau Menter, gyda lwfansau cyfalaf uwch os bydd Llywodraeth Cymru'n talu'r gost gynyddol.
Pan fyddai un o drethi presennol y DU yn cael ei datganoli, mae'r adroddiad yn cynnig strwythur "teg" i bennu'r gostyngiad yn y grant bloc gan y Trysorlys.
Trethi bach
Fe fyddai rheolaeth dros y trethi llai, y mae gweinidogion Llafur Cymru am eu gweld yn cael eu datganoli, hefyd yn gallu cael eu trosglwyddo i Fae Caerdydd.
Maen nhw'n cynnwys treth tirlenwi, treth stamp ar dir, a'r ardoll agregau, ac mae'r comisiwn hefyd yn cynnig y dylid datblygu ardrethi busnes yn llawn.
Awgryma'r comisiwn y dylai Toll Teithwyr Awyr gael ei datganoli ar gyfer teithiau awyr pell i gychwyn, gan ddatganoli'r doll yn llawn yn y dyfodol o bosibl ac y dylai Llywodraeth Cymru gael rhagor o bwerau i gyflwyno ardollau sy'n dilyn blaenoriaethau Cymru.
Benthyca
Mae'r adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion sy'n ymwneud â phwerau benthyca, gan gynnwys:
Y pŵer i fenthyca i gefnogi buddsoddiad mwy mewn seilwaith;
Y pŵer i fenthyca i gyllido gwariant cyfredol er mwyn rheoli gwell gallu i amrywio refeniw treth;
Y dylai pwerau benthyca fod yn amodol ar gyfyngiadau y cytunir arnynt gyda'r Trysorlys.
Dywedodd Mr Silk bod y "pecyn o argymhellion yn bodloni ein cylch gorchwyl - meddwl am argymhellion sy'n gwella atebolrwydd ariannol, sy'n gyson ag amcanion cyllidol y DU ac sy'n derbyn cefnogaeth eang".
"Er mwyn gwneud hyn, rhoddon ni bwyslais mawr ar gasglu tystiolaeth, ymgynghori'n eang a gwrando ar yr ystod eang o safbwyntiau a gyflwynwyd ger ein bron.
"Gweithiodd y comisiwn yn agos fel tîm dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydym wedi cytuno ar argymhellion fyddai, yn ein barn ni, o fudd i Gymru ac a fyddai'n cryfhau democratiaeth ac economi'r wlad.
"Byddai ein cynigion yn rhoi i Lywodraeth Cymru set bwysig o ddyfeisiadau cyllidol a byddan nhw'n fodd i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru gynnig dewisiadau cyllidol go iawn i bobl."
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Cefnogir y comisiwn gan bob un o'r pedair plaid wleidyddol yn y Cynulliad ac mae cyhoeddi'r adroddiad yn dangos pa mor bwysig yw gweithio trawsbleidiol."
Bydd y comisiwn yn dechrau ei waith ar ail ran y dasg, adolygu pwerau'r Cynulliad nad ydyn nhw'n bwerau ariannol, gyda'r gobaith o lunio adroddiad erbyn gwanwyn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2011