Ian Watkins, cyn-ganwr Lostprophets, wedi marw wedi ymosodiad

Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2013 cafodd Ian Watkins o Bontypridd ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant

  • Cyhoeddwyd

Mae Ian Watkins, cyn-ganwr y grŵp roc o Gymru Lostprophets, wedi marw wedi ymosodiad yng ngharchar Wakefield.

Dywed Heddlu Sir Gorllewin Efrog eu bod wedi cael eu galw i'r carchar fore Sadwrn wedi ymosodiad ar garcharor a'i fod wedi marw yn y fan a'r lle.

Yn ôl adroddiadau fe wnaeth carcharor arall ymosod arno â chyllell.

Yn 2013 cafodd Ian Watkins o Bontypridd ddedfryd o 29 mlynedd yn y carchar a chwe blynedd ar drwydded yn Llys y Goron Caerdydd am droseddau rhyw yn erbyn plant - roedd un o'r troseddau yn cynnwys ceisio treisio babi.

Wrth gyhoeddi'r ddedfryd dywedodd y barnwr: "Fe fydd unrhyw berson parchus sy'n gwrando ar yr achos yma yn ffieiddio mewn anghrediniaeth. Roedd gennych nifer fawr o gefnogwyr, ac roedd hynny'n rhoi grym i chi.

"Fe wnaethoch chi ddefnyddio'r grym i hudo cefnogwyr ifanc er mwyn cael at eu plant."

Cafodd dwy fenyw - mamau'r plant a gafodd eu cam-drin - eu dedfrydu i 14 ac 17 o flynyddoedd wedi iddyn nhw hefyd bledio'n euog i gyfres o gyhuddiadau.

Yn Awst 2023 roedd yna ymsodiad ar Watkins yn y carchar ond doedd ei anafiadau, bryd hynny, ddim yn bygwth ei fywyd.

Watkins yn perfformio yn Llundain cyn iddo gael ei arestio yn 2012Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Watkins yn perfformio yn Llundain cyn iddo gael ei arestio yn 2012

Yn ei 20au, gwerthodd Watkins filiynau o albymau ledled y byd ac roedd yn denu torfeydd i'w wylio.

Cafodd y grŵp Lostprophets ei ffurfio yn 1997. Fe wnaethon nhw ryddhau pum albwm - roedd un ohonyn nhw yn rhif un yn y DU ac fe gyrhaeddodd dwy sengl y 10 uchaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol