Harri Tudur: Deiseb yn gofyn am gerflun ym Mhenfro
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb yn galw am gerflun o Harri Tudur ym Mhenfro wedi cael ei chyflwyno i'r Cynulliad.
Dywedodd y ddeiseb ar-lein gyda 144 o enwau arni fod angen cofeb i Harri'r Seithfed yn y castell lle cafodd ei eni.
Dywedodd y Cynulliad y byddai'r ddeiseb yn cael ei thrafod am y tro cyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar Ionawr 15.
Cafodd y brenin, sefydlydd y Tuduriaid, ei eni yn y castell yn 1457 a bu'n byw yno tan ei fod yn 11 oed.
Clustnodi safle
Maer Penfro a chyn-dywysydd yn y castell, Melanie Phillips, sydd wedi bod yn ymgyrchu.
Cafodd y brenin, sefydlydd y Tuduriaid, ei eni yn y castell yn 1457 a bu'n byw yno tan ei fod yn 11 oed.
Dywedodd Ms Phillips ei bod wedi ceisio dechrau'r prosiect ers sawl blwyddyn.
"Dim ond plac ar gadair bren y tu allan i'r castell sy' 'na ac un yn yr ystafell lle cafodd ei eni," meddai.
"Dyma le y cafodd sefydlydd y Tuduriaid ei eni a does 'na ddim cofeb o gwbl.
"Pan oeddwn yn tywys pobl o amgylch y lle roedden nhw'n synnu nad oedd dim byd yma."
Ychwanegodd fod ymddiriedolwyr y castell wedi clustnodi safle ar gyfer y gofeb y tu allan i'r castell.
'Sefydlydd'
"Byddai'r cerflun yn costio £40,000 ond rwy'n gobeithio y bydd pethau'n gallu symud gan fod deiseb wedi ei chyflwyno i'r Cynulliad.
"Mae gan Tommy Cooper gerflun yng Nghaerffili. Roedd e'n ddigrifwr eitha' da ond beth yw hynny o'i gymharu â sefydlydd y Tuduriaid?" meddai Mrs Phillips.
"Penfro yw'r unig dre' ym Mhrydain heb gerflun i nodi lle cafodd brenin ei eni."
Dywedodd fod Nathen Amin wedi trefnu'r ddeiseb ac mae BBC Cymru wedi gofyn iddo am ei ymateb.
Cafodd y pwnc ei drafod ar raglen BBC Cymru Taro'r Post ddydd Mawrth.
Dywedodd Teifryn Williams, o Aberdaugleddau sy'n gweithio fel tywysydd yn Sir Benfro, wrth y cyflwynydd Dylan Jones ei fod yn ffyddiog y byddai cerflun o Harri Tudur yn cael ei godi ym Mhenfro.
'Hwb i dwristiaeth'
"Byddai codi cerflun yn hwb i dwristiaeth ac yn denu mwy o arian nag y byddai'n cael ei wario i godi'r cerflun."
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad fod gan y Pwyllgor Deisebau nifer o opsiynau.
Roedd y rhain, meddai, yn cynnwys gofyn am fwy o wybodaeth gan y deisebydd ac unrhyw grwpiau perthnasol eraill a gofyn barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater.
Cafodd Harri ei eni yn y castell ar Ionawr 28, 1457, ddau fis ar ôl i'w dad Edmund Tudur farw.
Cafodd ei fagu gan ei ewythr, Jasper, ddihangodd i Ffrainc gyda Harri ar ôl brwydr yn 1471.
Erbyn 1483 Harri oedd â'r hawl i'r Goron o ran y Lancastriaid ac yn 1485 fe gyrhaeddodd Aberdaugleddau, lladd Richard III ym Mrwydr Bosworth cyn cael ei goroni'n frenin.