Cynllun ynni solar yn Llŷn yn denu 'gwrthwynebiad mawr'

Byddai'r paneli yn cael eu codi ar draws dau gae ger Lon Pin, Llanbedrog
- Cyhoeddwyd
Mi fyddai codi datblygiad ynni solar ger pentref yn Llŷn yn "anaddas" ac yn dod a "dim buddion i'r ardal", yn ôl ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r cynllun.
Ddydd Llun fe fydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn trafod cais i godi paneli ar draws tua 10 erw o dir ar gyrion pentref Llanbedrog.
Yn ôl y datblygwyr, Lon Pin Solar Limited, byddai'r cynllun 4.99MW yn gwneud "cyfraniad sylweddol" tuag at ymdrechion sero net ac yn diwallu anghenion ynni dros 1,000 o gartrefi.
Mae Cymru yn anelu i gael ei phweru'n gyfan gwbl gan ynni adnewyddadwy erbyn 2035.
Ond poeni am golli tir amaethyddol o safon mae llawer yn lleol, gyda'r cyngor cymuned wedi datgan gwrthwynebiad cryf i'r cynllun.

Byddai'r paneli yn cael eu codi ar draws dau gae ger Lon Pin, Llanbedrog
Mae ynni solar wedi bod yn bwnc llosg mewn rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Ar Ynys Môn mae ymgyrchwyr lleol a'r cyngor sir wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo cynllun 160MW i orchuddio 660 acer o dir yng ngogledd a chanolbarth yr ynys gyda phaneli.
Er bod hwn yn ddatblygiad llawer iawn llai o ran maint, pryderon tebyg sydd gan rai o drigolion Llanbedrog hefyd.
Dywedodd Angela Russell, y cynghorydd sir dros ward Llanbedrog a Mynytho, fod "gwrthwynebiad mawr wedi bod yn lleol".
"Mae'n le mor dawel, a braf...'da ni yn yr ardal o harddwch naturiol eithriadol mae'n rhaid i ni gofio, a does 'na ddim byd naturiol nac yn hardd am y rhain," meddai.
"Maen nhw am fod yno am flynyddoedd maith ac fydd 'na drafferth cael gwared ohonon nhw."

Mae'r cynghorydd Angela Russell yn awgrymu gosod paneli ar siediau yn hytrach nac mewn caeau
Ond er yn derbyn bod yna le i ynni solar, fe ychwanegodd Ms Russell: "Mae 'na lefydd gwell i'w rhoi nhw... mae 'na ffermydd hefo siediau mawr, pam 'da ni ddim yn rhoi nhw ar siediau o'r golwg a helpu pob fferm?
"Dyna'r ffordd ymlaen."
Dywedodd Dr Greta Hughes, sydd hefyd yn eistedd ar Gyngor Cymuned Llanbedrog, ei bod yn poeni am yr effaith ar fywyd gwyllt.
"Mae 'na dylluan wen lathenni o fan hyn, felly lle mae hi a thylluanod eraill am hela?" meddai.

Mae Dr Greta Hughes yn pryderu am yr effaith ar fywyd gwyllt
"Yn y cais, un darn o swydd mae'r datblygiad yma am greu dros chwarter canrif.
"Mae pobl wedi sôn dros y cenedlaethau am y dŵr a'r glo yn mynd o Gymru, ond mae'r un peth yn digwydd hefo ynni solar rŵan, fydd 'na ddim elw lleol o gwbl," meddai Dr Hughes.
'Niwed sylweddol i fwynderau gweledol'
Yn ôl dogfennau Cyngor Gwynedd, mae 98% o'r safle wedi ei ddynodi fel "tir amaethyddol safon dda iawn", a byddai'r paneli eu hunain yn cael eu codi ar draws ardal gyfystyr â chwech neu saith gae pêl-droed.
Mae hefyd wedi ei leoli o fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r datblygwyr wneud sylw.
Ond mae eu cais cynllunio yn nodi na fyddai'r datblygiad yn golygu colli'r tir amaethyddol yn gyfan gwbl gan fod posib parhau i ddefnyddio tir ar gyfer defnydd amaethyddol er gwaetha'r paneli.
Mi fyddan nhw hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llanbedrog dros gynnig buddion ariannol i'r fro.

Ond barn swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd yw y dylid gwrthod y cais, yn seiliedig ar ei "faint a lleoliad o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a'i effaith weledol ar gymeriad y tirwedd".
Mi fyddai hefyd, yn eu barn nhw, "yn cael niwed sylweddol ar fwynderau gweledol trigolion cyfagos".
Mae disgwyl i bwyllgor cynllunio'r cyngor wneud penderfyniad ar y cais yn ystod eu cyfarfod brynhawn Llun.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024