Grantiau i ddarganfod hanes lleol
- Cyhoeddwyd
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi cynllun fydd yn dosrannu £3m o grantiau i helpu cymunedau i ddarganfod eu hanes lleol.
Bydd yr hanesydd Michael Wood, ynghyd â grwpiau fu'n rhan o gynllun peilot, yn cymryd rhan mewn digwyddiad i gyhoeddi'r cynllun Rhannu Treftadaeth.
Un o'r grwpiau hynny yw Prosiect yr Urdd yn Nhreuddyn a dderbyniodd grant o £9,000 y llynedd.
Sefydlwyd adran gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn yn 1922 ac roedd aelodau o'r gymdeithas leol yn awyddus i gasglu atgofion am yr Urdd yn yr ardal.
Dywedodd Carolyn Thomas, sy'n gynghorydd lleol yn Nhreuddyn: "Roedd gan rai trigolion, oedd wedi tyfu fyny gyda'r Urdd, gasgliad o hen luniau, baneri, bathodynnau, ac roeddent yn poeni y gallai'r deunydd yma gael ei golli am byth.
"Cynhaliwyd digwyddiad yn y pentref i drafod hyn a phenderfynwyd ceisio am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i'n helpu."
Yn awr mae trigolion Treuddyn yn gweithio ar nifer o syniadau gan gynnwys creu murlun gyda hen luniau a chyhoeddi llyfr dwyieithog.
Yn ogystal bydd plant ysgolion cynradd y pentref - Ysgol Terrig ac Ysgol Parc y Llan - yn cael hyfforddiant ar ddulliau cyfweld er mwyn holi pobl hŷn y pentref am eu hatgofion.
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar 6 Ebrill er mwyn casglu rhagor o luniau ac atgofion.
Dywedodd Ms Thomas y gallai pawb fod yn rhan o'r prosiect.
"Dydw i ddim yn dod o Gymru," meddai. "Ond dwi'n meddwl ei bod yn bwysig cadw treftadaeth Cymru.
"Mae'r prosiect yma'n ymwneud â chadw ein treftadaeth a'r iaith Gymraeg, a gwahanol genhedlaethau'n gweithio gyda'i gilydd."
Dywedodd Carole Souter, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri: "Bydd y cynllun newydd yn dod â jig-so enfawr o'n straeon lleol at ei gilydd i greu darlun o'n gorffennol.
"Mae treftadaeth yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, a bydd y buddsoddiad hwn yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i grwpiau i archwilio a dathlu'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw yn eu hardal leol."