Tua 1,000 o bobl yn Y Rhyl i alw am annibyniaeth i Gymru

- Cyhoeddwyd
Mae tua 1,000 o bobl wedi gorymdeithio drwy strydoedd Y Rhyl i gefnogi Cymru annibynnol.
Dyma'r digwyddiad diweddaraf i gael ei drefnu gan Yes Cymru ac All Under One Banner (AUOB).
Symudodd yr orymdaith drwy ganol y dref a gorffen yn Rhyl Events Arena ger y promenâd lle'r oedd nifer o siaradwyr ac artistiaid yn perfformio.
Daeth miloedd hefyd ynghyd yng ngorymdaith debyg yn y Barri fis Ebrill.
Yn ôl y trefnwyr mae'r niferoedd sy'n mynychu yn dangos bod y galw am Gymru annibynnol yn cynyddu.

"Rhaid i ni gyrraedd lleoedd nad ydym wedi bod yn ymgyrchu o'r blaen," meddai Geraint Thomas o AUOB
Dywedodd Geraint Thomas o AUOB: "'Da ni wedi bod i ardaloedd sy'n gyfforddus i ni fel Caernarfon, Caerfyrddin a Caerdydd, felly 'da ni'n ymestyn allan.
"Roedden ni yn y Barri ryw bum mis yn ôl. Rhaid i ni gyrraedd lleoedd nad ydym wedi bod yn ymgyrchu o'r blaen - ac mae lledaenu'r neges a chael y sgwrs yn lleoedd fel y Rhyl yn hanfodol bwysig i ni."
Ymhlith y siaradwyr ar y llwyfan roedd y gantores Tara Bandito, a'r ymgyrchydd annibyniaeth i'r Alban Lesley Riddoch.

"Nid yw'r Rhyl yn wahanol i lawer o rannau eraill o Gymru gan ei fod wedi dioddef dros y degawdau diwethaf," meddai Cadeirydd Yes Cymru, Phil Griffiths
Dywedodd Cadeirydd Yes Cymru, Phil Griffiths: "Nid yw'r Rhyl yn wahanol i lawer o rannau eraill o Gymru gan ei fod wedi dioddef dros y degawdau diwethaf oherwydd amddifadedd economaidd, felly mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn dod i leoedd fel y Rhyl.
"Mae cenhedloedd a oedd dan reolaeth yr ymerodraeth Brydeinig ac sydd wedi cael annibyniaeth wedi mynd ymlaen i fod yn llewyrchus a llwyddiannus.
"Mae unrhyw ddadl bod Cymru yn rhy fach ac yn rhy dlawd yr un peth a gafodd ei wneud yn erbyn y gwledydd hynny. Felly pam y dylai Cymru fod yn wahanol?"

Dafydd Timothy (dde) gyda'i fab Gwion Dafydd (chwith)
Mae Dafydd Timothy a'i fab Gwion Dafydd yn dod o'r Rhyl, ac yn falch i weld gorymdaith o'r fath yn dod i'w dref.
"Dwi wrth fy modd, fel hogyn sydd wedi'i ddwyn a'i fagu ar y Stryd Fawr yn Rhyl fedrai ddim coelio'r peth, mae o fel breuddwyd wedi'i wireddu i weld rali annibyniaeth yn sunny Rhyl," meddai Dafydd.
Dywedodd fod cefnogaeth am annibyniaeth ddim yn gryf yn Y Rhyl "ond mae Cymru'n berthyn i ni gyd ac mae isio cenhadu yn llefydd fel hyn".
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd yr orymdaith yn "agoriad llygad" i nifer o bobl yn y dref.
Dywedodd Gwion fod gweld digwyddiadau o'r fath yn Y Rhyl yn "wych".
"Yn aml mae llefydd fel Rhyl yn cael ei anghofio pan mae'n dod i bethau fel annibyniaeth a chenedlaetholdeb," meddai.
"Ond i lot o bobl yma dydi bywyd ddim yn gweithio iddyn nhw... ac mae gallu atgoffa pobl yma fod 'na ffordd arall, opsiwn arall yn anhygoel."

Mae'r grwpiau ymgyrchu wedi bod yn trefnu'r digwyddiadau ers 2019.
Yn ystod y cyfnod hwnnw mae arolygon barn wedi awgrymu bod cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru yn amrywio rhwng 18% a 42%, gyda gwrthwynebiad yn amrywio rhwng 48% a 61%.
Fe wnaeth pôl a gafodd ei gynnal gan Redfield & Wilton Strategies ar ran Yes Cymru ym mis Mawrth ganfod fod 35% o'r ymatebwyr yn cefnogi Cymru annibynnol, 50% yn erbyn a 14% heb benderfynu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2024