Toriadau: Pryder am lygod mawr
- Cyhoeddwyd
Mae un corff iechyd cyhoeddus yn rhybuddio y gallai toriadau yng ngwasanaethau cynghorau arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y llygod mawr.
Bellach mae dros chwarter yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn codi tâl am ddifa llygod mawr - dim ond un oedd yn gwneud hynny chwe blynedd yn ôl.
Mae eraill yn codi tâl am gael gwared ar lygod, chwain a chwilod duon, ac mae un cyngor wedi diddymu rheoli plâu yn llwyr.
Dywedodd y Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol (CIEH) eu bod yn bryderus na fydd pobl yn barod i dalu, ac felly yn fodlon diodde' plâu.
Hyd at £40
Yn ôl ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru, mae chwech o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn codi hyd at £40 ar drigolion i ddifa llygod mawr o'u cartrefi - sef Ynys Môn, Caerdydd, Gwynedd, Casnewydd, Powys a Wrecsam.
Mae naw arall yn codi tâl am gael gwared ar lygod, a mwy yn codi am ddifa plâu eraill megis chwain neu wenyn meirch.
Yn y cyfamser mae un awdurdod - Sir Gaerfyrddin - wedi rhoi'r gorau i gynnig gwasanaeth difa plâu yn llwyr yn 2011 er mwyn arbed £82,000, gan gynnig cyngor i drigolion yn lle'r gwasanaeth.
Mae pryder y bydd mwy o wasanaethau tebyg yn diflannu dros y flwyddyn nesaf wrth i gynghorau chwilio am fwy o arbedion.
Dywedodd Julie Barratt, cyfarwyddwr CIEH Cymru, ei bod yn bryderus am y toriadau.
"Efallai y bydd pobl yn anwybyddu'r broblem gan obeithio y bydd yn diflannu, sydd yn annhebygol," meddai.
"Fyddan nhw ddim yn delio gyda'r pla tan ei fod yn rhy fawr, ac yna mae'n broblem llawer mwy. Fe fyddwn yn gweld ffrwydrad yn niferoedd y plâu.
"Mae'n bryder hefyd y bydd pobl yn ceisio delio gyda'r peth eu hunain gan brynu gwenwyn mewn siopau DIY."
Imiwnedd
Dywedodd mai swyddogion rheoli plâu y cynghorau oedd yn gwybod faint o wenwyn i ddefnyddio a lle i'w roi.
"Nid yw'r cyhoedd yn arbenigwyr," ychwanegodd.
"Os fyddan nhw'n gosod gormod o wenwyn, fe allai'r llygod mawr ddatblygu imiwnedd. Os nad ydych chin gwybod beth i wneud, fe allech chi beryglu eich plant, eich anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt eraill."
Nid yw rheoli plâu yn gyfrifoldeb statudol y mae'n rhaid i gynghorau ddarparu, ac mae rhai awdurdodau lleol yn dadlau bod cwmnïau preifat yn gallu cynnig y gwasanaeth yn rhatach.
Dywedodd Cyngor Sir Gâr eu bod wedi rhoi'r gorau i gynnig y gwasanaeth yn 2011 oherwydd bod llai o alw amdano, a thrafferthion i gynnig pris llai na chwmnïau preifat.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi monitro'r sefyllfa ers hynny, ac nad ydyn nhw wedi gweld mwy o fermin ers hynny.