Anfodlonrwydd gyda ymateb Llywodraeth Cymru i broblemau'r tywydd oer
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o'r Gogledd sydd wedi colli defaid a merlynod yn yr eira yn flin nad ydi Llywodraeth Cymru wedi ymateb ar frys i geisio helpu'r gymuned amaethyddol.
Mae cannoedd o anifeiliad wedi marw yn y tywydd oer ond mae rheolau'r Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd yn rhaid i ffermwyr dalu cwmniau i gasglu cyrff anifeiliaid marw.
Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies bod helpu'r ffermwyr yn "flaenoriaeth frys". Mi fydd o'n gwneud datganiad pellach ddydd Mawrth.
Ond yn ol Gareth Wyn Jones, sy'n ffermio yn ardal Llanfairfechan yng Ngwynedd, mae angen cymorth yn syth.
Cafodd cannoedd o ddefaid yng Ngogledd Cymru eu claddu gan luwchfeydd o dros 15 troedfedd (4.57m) yr wythnos diwethaf.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau codi'r rheolau Ewropeaidd fel y gall ffermwyr gladdu'r anifeiliaid sydd wedi marw.
Erbyn hyn mae Gareth Wyn Jones yn amcangyfrif ei fod o a thri ffermwr cyfagos wedi colli hyd at dri chant o ddefaid rhyngddyn nhw.
"Mae hi'n drychinebus. Mae'r bobl rydw i yn ei hadnabod yn yr ardal yma ddim wedi cysgu, a rydw innau wedi colli pwysau"
Bu farw hefyd dros 25 o ferlynod gwyllt sy'n cael eu cadw ar y bryniau cyfagos.
Ar y Post Cyntaf fore Llun awgrymodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ei bod hi'n bosib mewn amgylchiadau eithriadol i godi rheolau'r Undeb Ewropeaidd. Mi fyddai hynny yn ôl Emyr Jones yn galluogi ffermwyr i gladdu eu hanifeiliaid neu sicrhau bod y cyrff yn cael eu casglu yn ddi-dâl.
Er bod Alun Davies, y gweinidog, wedi gofyn i Brif Filfeddyg Cymru edrych ar ffyrdd o helpu'r ffemwyr, mae Gareth Wyn Jones yn anfodlon.
Dywedodd bod ffermwyr eisioes yn wynebu cyfnod anodd, gyda'r tywydd gwael y llynedd yn dinistrio cnydau a chostau tanwydd a chwrtaith yn dal i godi.
"Mae hi mor bwysig i'r gwleidyddion ddeall na fedrwch chi adael cyrff meirw ar y mynydd am gyfnod hir"
Mae Alun Davies wedi dweud ei fod o'n ymwybodol o'r trafferthion difrifol sy'n wynebu ffermwyr yng Nghymru oherwydd yr eira trwm yr wythnos diwethaf
Cadarnhaodd y gweinidog y bydd yn gwneud datganiad pellach ddydd Mawrth.