Prif weithredwr yn dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Jon HorneFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Bu Jon Horne yn rheoli'r maes awyr o 2001 i 2007

Mae prif weithredwr newydd wedi cael ei benodi i Faes Awyr Caerdydd wedi i Lywodraeth Cymru brynu'r safle yr wythnos ddiwethaf am £52 miliwn.

Y dyn newydd wrth y llyw fydd Jon Horne.

Bu Mr Horne yn rheolwr gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd rhwng 2001 a 2007, ac mae e hefyd wedi bod mewn swyddi tebyg ym meysydd awyr Dinas Llundain a Dinas Sheffield.

Yn ddiweddar bu'n bartner gyda chwmni Airport Investment and Enterprise LLP.

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd cadeirydd y maes awyr, yr Arglwydd Rowe-Beddoe: "Rwyf wrth fy modd mai Jon Horne fydd prif weithredwr Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.

"Bydd ei brofiad yn y diwydiant meysydd awyr a'i brofiad penodol o redeg Maes Awyr Caerdydd yn ystod cyfnod llwyddiannus iawn yn hanfodol wrth geisio gwella hynt a helynt maes awyr cenedlaethol Cymru trwy ddatblygu mwy o wasanaethau a chyrchfannau i bobl Cymru."

'Potensial'

Dywedodd Mr Horne: "Fe fyddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i greu maes awyr y gall pobl Cymru fod yn falch ohono unwaith eto.

"Rwy'n cydnabod na fydd y dasg yn hawdd, ac ni fydd pethau yn newid dros nos.

"Mae rhai cynlluniau eisoes yn eu lle ac fe eraill yn cael eu datblygu dros yr wythnosau a misoedd nesaf, ond fe fyddwn hefyd yn gwrando ar yr hyn y mae pobl am ei gael gan eu maes awyr, beth y mae busnesau am ei weld a deall sut y gallwn ddarparu hyn yn llwyddiannus.

"Yn amlwg mae'r potensial yno o hyd i Faes Awyr Caerdydd chwarae rôl flaenllaw yn llwyddiant economaidd Cymru i'r dyfodol, ac i ddarparu'r gwasanaethau awyr a fydd yn denu cwsmeriaid yn ôl sydd ar hyn o bryd yn defnyddio meysydd awyr eraill y tu allan i Gymru."

Daeth croeso i'r penodiad gan Weinidog Busnes Cymru Edwina Hart a ddywedodd:

"Mae penodiad Jon Horne fel prif weithredwr yn dilyn penodi'r Arglwydd Rowe-Beddoe fel cadeirydd yn golygu arweiniad cryf a phrofiadol i'r cyfarwyddwyr a'r tîm rheoli presennol yn y maes awyr.

"Bydd y ddau benodiad yn hanfodol i geisio denu mwy o bobl i'r derfynell, denu gwasanaethau a theithiau newydd o Gaerdydd a gwella profiad y teithiwr sy'n defnyddio maes awyr cenedlaethol Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol