Tic Toc medd y cloc
- Cyhoeddwyd
Gwnes i grybwyll y dydd o'r blaen taw dwy flynedd sy 'na i fynd tan yr etholiad nesaf. Oherwydd hynny mae'r pleidiau i gyd wrthi'n dewis ymgeiswyr seneddol ac, yn achos Plaid Cymru, rhai ar gyfer y Cynulliad hefyd.
Mae'r broses o ddewis a'r dewisiadau ei hun yn gallu adrodd cyfrolau ynghylch blaenoriaethau a gobeithion y gwahanol bleidiau.
Er enghraifft, mae'r ffaith taw dewis o ddau ymgeisydd oedd gan Geidwadwyr Gogledd Caerdydd yn awgrymu i mi nad yw'r blaid yn orhyderus ynghylch dal ei gafael ar sedd hynod ymylol yna. Ar y llaw arall mae penderfyniad Llafur yng Nghanol Caerdydd i gyfyngu ei dewis i fenywod yn unig yn arwydd o hyder, dybiwn i.
"Hors d'oeuvres" yw etholiad 2015 i Blaid Cymru. Fe fydd canlyniadau etholiad Cyngor Môn yn ailgynnau gobeithion y blaid o drechu Albert Owen ond heb os etholiad Cynulliad 2016 yw'r prif gwrs i'r cenedlaetholwyr.
Dyna'r rheswm am ddewis ymgeiswyr gymaint o flaen llaw a'r rheswm y mae Aelodau Cynulliad fel Rhodri Glyn Thomas, Alun Ffred Jones a Leanne Wood wedi gorfod cyhoeddi eu cynlluniau cyn i oes y Cynulliad presennol gyrraedd ei hanner ffordd. Gallwn ddisgwyl cyhoeddiad gan Ieuan Wyn Jones hefyd - a hynny yn weddol o handi.
Pwy ddaw i lenwi'r bylchau ar feinciau Plaid Cymru?
Mae'r cyfnod enwebu eisoes wedi ei dechrau yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Adam Price yw'r enw sy'n cael ei glywed amlaf ond mae 'na dipyn o fainc gan Blaid Cymru yn yr ardal. Fe fyddai rhywun fel Cefin Campbell, er enghraifft, yn ymgeisydd credadwy iawn.
Sian Gwenllian yw'r ymgeisydd cyntaf allan o'r traps yn Arfon ond fe fyddai Dyfed Edwards neu eraill yn gallu gwneud ras ohoni a phwy a ŵyr beth yw cynlluniau Myfanwy Davies? Ai ar Fôn, Arfon neu'r ddwy y mae llygad Heledd Fychan? Pam bod ambell i hen ben o fewn y blaid yn canmol rhai o'u cynghorwyr newydd ym Môn i'r cymylau? Oes un o'r rheiny ar y "fast track"?
Mae 'na fwy o gwestiynau nac atebion ar hyn o bryd.
Rhaid dweud gair am y Democratiaid Rhyddfrydol cyn cwpla. "Maldwyn" yw'r gair hwnnw.
Yn realistig Maldwyn yw'r unig sedd y gallai'r blaid ei chipio yn 2015 ac mae'n sedd lle mae rhinweddau a ffaeleddau ymgeiswyr yn cyfri. Gofynnwch i Glyn neu Lembit! Mae gweld eu "caer fechan olaf" yn nwylo'r gelyn yn boenus iawn i Ryddfrydwyr Cymru ond oes 'na fab neu ferch darogan a all ei hailfeddianu? Fe gawn weld.