Coleg Harlech yn cynnal arwerthiant

  • Cyhoeddwyd
Theatr Harlech
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Coleg Harlech yn bwriadu ail-ddatblygu Theatr Harlech ond bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r cynllun

Mae Coleg Harlech yn cynnal arwerthiant er mwyn ceisio lleihau ei ddyledion o bron i filiwn o bunnoedd.

Bydd dros 350 eitem o waith celf neu lenyddiaeth yn cael eu cynnig i brynwyr, gan gynnwys ambell lun gan Kyffin Williams.

Mae disgwyl i un ohonynt, sef tirlun o'r enw Pentrepella, godi rhwng £35,000 a £45,000 a gallai un arall, Ffridd Llwyn Gorfun, godi dros ddeng mil o bunnoedd.

Y gobaith yw y bydd yr arwerthiant yn codi dros hanner miliwn o bunnoedd a bydd hynny'n mynd rhywfaint o'r ffordd i dalu am ddiffyg ariannol y coleg.

Cyhoeddodd Coleg Harlech ym mis Mawrth eu bod nhw mewn dyled o £900,000.

Mae'r coleg yn darparu cyrsiau galwedigaethol ar gyfer oedolion mewn lleoliadau ledled gogledd a chanolbarth Cymru.

'Anfaddeuol'

Dangosodd ymchwil gan BBC Cymru bod y coleg wedi gwario bron i £500,000 ar gostau ymgynghorol ar gyfer adeilad sydd bellach ddim yn debygol o gael ei adeiladu.

Gwariodd y coleg yr arian er mwyn ceisio sicrhau caniatâd cynllunio i ail-ddatblygu Theatr Harlech, creu lle i arddangosfeydd yn ogystal ag adeiladu unedau ar gyfer busnesau a neuadd breswyl newydd i fyfyrwyr.

Ond ni lwyddodd y coleg i sicrhau'r buddsoddiadau angenrheidiol roeddent angen er mwyn i'r gwaith fynd yn ei flaen.

Dywedodd aelod o staff y coleg oedd eisiau rhoi tystiolaeth yn ddi-enw bod y ffigwr o hanner miliwn yn "anfaddeuol, yn annealladwy".

"Fe ddylai rhywun fod wedi goruchwylio hyn. Wnaethon nhw ddim a rhaid eu gwneud yn atebol," meddai.

'Sefyllfa ariannol anodd iawn'

Mewn datganiad dywedodd Coleg Harlech: "Darganfu Coleg Harlech yn ddiweddar ei fod mewn sefyllfa ariannol anodd iawn, felly, fel rhan o'r cynllun adfer penderfynwyd gwerthu rhai o'r asedau.

"Y gobaith yw y bydd y gwerthiant yn helpu'r gymdeithas i barhau â'i brif rôl o ddarparu addysg i oedolion ar draws gogledd a chanolbarth Cymru."

Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal ar Fai 15 yn Nhŷ Arwerthiant Wingetts yn Wrecsam.

Hefyd gan y BBC