Dyn yn pledio'n euog i lygru
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth cwmni ailgylchu wedi derbyn dedfryd ohiriedig o dri mis am ddefnyddio Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig er mwyn cael gwared â gwastraff.
Fe gafodd David John Neal, 52, o'r Rhymni yng Nghaerdydd, ddirwy o £10,000 ac mae'r ddau gwmni mae'n berchen arnynt yn wynebu costau o dros £200,000 wedi iddo bledio'n euog.
Roedd Mr Neal wedi defnyddio safle ei gwmnïoedd, Atlantic Recycling a Neal Soil Suppliers, er mwyn cael gwared â'r hyn gafodd ei ddisgrifio fel "llygredd sylweddol a difrifol" yn ystod yr achos llys.
Roedd Mr Neal yn rhedeg y ddau gwmni ar safle Fferm Tŷ-To-Maen yng Nghaerdydd, ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Planhigion a blodau
Mae'r ardal wedi ei hamddiffyn oherwydd y planhigion a'r blodau sy'n tyfu yno.
Daethpwyd â'r achos yn erbyn Mr Neal yn dilyn ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'i ragflaenydd Asiantaeth yr Amgylchedd, ar y cyd gyda Heddlu De Cymru.
Clywodd y barnwr Martin Brown bod hylif gwenwynig wedi cyrraedd ffos ddraenio gyfagos.
Plediodd Neal yn euog yn bersonol i achosion o dorri rheolau amgylcheddol, a hefyd ar ran ei ddau gwmni i ollwng gwastraff oedd yn debygol o achosi llygredd i'r amgylchedd neu niwed i iechyd dynol.
£50,000
Cafodd y ddau gwmni ddirwy o £50,000 yr un yn ogystal â chostau o £51,000 yr un.
Dywedodd y barnwr Brown am achos Atlantic Recycling: "Roedd yn amlwg bod potensial llygredd difrifol ond diolch byth, nid oedd unrhyw effeithiau andwyol tymor hir."
Ond am achos Neal Soil Suppliers, lle cafodd elifiant bwyd a llaeth eu gwasgaru dros y cae, roedd "llygredd sylweddol a difrifol" wedi digwydd.
Dywedodd bargyfreithiwr y cwmnïau, Andrew Arentsen: "Doedd hyn ddim yn drosedd a arweiniodd at elw. Roedd y cwmni yn ceisio uwchraddio eu gorsaf trosglwyddo gwastraff ac roeddent yn defnyddio'r cae fel ateb dros dro."
Yn siarad ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, dywedodd Graham Hillier: "Mae canlyniad yr achos hwn yn dangos na fydd cwmnïau ac unigolion yn ceisio manteisio ar y fframwaith rheoleiddio sy'n gwarchod yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd, yn cael ei dderbyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
"Byddwn yn gweithio gyda'r rhai sy'n rhannu ein nod o wneud y defnydd gorau o adnoddau Cymru, ond dyw'r rhagolygon ar gyfer y rhai sy'n ceisio gwneud yr elw mwyaf ar draul eu cwsmeriaid a'r amgylchedd ddim yn edrych yn dda."