Shoni Bach o'r Rhondda
- Cyhoeddwyd
- comments
Ni allaf ddianc rhag hwn!
Mae'n bron i ddeugain mlynedd ers i mi gwrdd â Leighton Andrews am y tro cyntaf a byth ers hynny mae wedi troi i fyny fy mywyd o bryd i gilydd am ryw reswm neu'i gilydd. Buaswn yn taro ar ei draws mewn cynadleddau Rhyddfrydol neu Llafur. Am gyfnod bu'n rhannu'r un cyflogwr - er ei fod e mewn swydd llawer mwy goruchel na'n un i.
Ers canol y nawdegau mae Leighton wedi bod yn ôl ar y sin gwleidyddol yng Nghymru ac yn ffigwr fwyfwy pwysig o fewn iddi. Mae'n ddadlennol efallai bod y cwestiwn "beth fydd Leighton yn gwneud nesaf?" i'w glywed yr un mor aml â'r un ynghylch pwy fyddai'n cymryd ei le dros y pedair awr ar hugain diwethaf.
Rydym yn gwybod yr ateb i'r ail gwestiwn bellach a theg yw dweud nad yw aelodau'r Cynulliad ar y cyfan wedi eu cyffroi gan benodiad Huw Lewis.
Ond beth am y cwestiwn cyntaf. Sut Aelod Cynulliad fydd Leighton Andrews o hyn ymlaen? Yn ei lythyr ymddiswyddiad mae addo hyn.
"Your Government will of course have my consistent and continuing support."
Rhaid yw derbyn ei air, wrth reswm. Serch hynny, rhywsut mae'n annodd dychmygu Leighton fel rhyw gi bach tawedog yn y siambr. Yn sicr fe fydd y gwrthbleidiau'n clywed ei gyfarth ac yn goddef ambell i frathiad. Y cwestiwn mawr yw a fydd yn dewis aros yn dawel os ydy e'n anghytuno'n sylfaenol a rhyw agwedd neu gilydd o waith y Llywodraeth?
Mae hynny'n dibynnu, dybiwn i, ar sut mae'n gweld ei ddyfodol. Ydy e'n dymuno dychwelyd i'r Cabinet rhywbryd yn y dyfodol neu ydy e'n bwriadu talu mwy o sylw i'w ddiddordebau eraill? Mae 'na ddigon o'r rheiny.
Fe gododd un aelod o Blaid Cymru gwestiwn diddorol mewn sgwrs heddiw. Dyma fe - "ai Leighton fydd Dafydd El y Blaid Lafur?" hynny yw, rhywun sy'n ddigon sicr o'i statws i ddweud eiu ddweud yn ddiflewyn ar dafod
Fe fyddai hynny'n ddiddorol.