Derfydd Sidan

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Derfydd aur a derfydd arian, Derfydd melfed, derfydd sidan. Efallai'n wir - ond mae'n ymddangos weithiau bod gwaith Comisiwn Silk yn ddiderfyn a bod y dasg o lunio ymateb iddi yn drech na Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Chwi gofiwch fod y Llywodraeth wedi addo ymateb i ran gyntaf yr ymchwiliad, y rhan yn ymwneud a threthi, "yn y gwanwyn". Hyd yn oed o dderbyn y diffiniad mwyaf llac posib o'r gair hwnnw mae'r tymor wedi hen ddiweddu. Mae'r coed wedi gwisgo eu dail, cafwyd mwyniant mwyn yr haul ac erbyn hyn mae'r wyn ar y dolydd yn tyfu wiscyrs!

Beth aeth o le felly? Wel, does dim rhaid crwydro'n bell iawn i ddod o hyd i bobol sy'n rhoi'r bai yn blwmp ac yn blaen ar ysgwyddau'r Ysgrifennydd Gwladol. Honnir mai amharodrwydd David Jones i weld rhagor o bwerau'n cael eu trosglwyddo i Fae Caerdydd oedd y maen tramgwydd a bod pethau ond wedi dechrau symud ar ôl i bobol uwch o fewn y Llywodraeth nac Ysgrifennydd Cymru ddechrau cymryd diddordeb.

Mae ffynhonellau o fewn Swyddfa Cymru wedi gwadu hynny.

Beth bynnag yw'r gwir erbyn hyn mae'n debyg bod ymateb y Llywodraeth mwy neu lai'n barod. Yn wir mae'n debyg y byddai''n bosib ei gyhoeddi'r wythnos hon cyn dechrau'r gwyliau seneddol.

Pam nad yw hynny am ddigwydd ? Mae'r ymateb mae'n ymddangos yn deillio o benderfyniad gan y Llywodraeth i glymu'r cyhoeddiad Cymreig a chyhoeddi Adroddiad Comisiwn McKay sydd wedi bod yn ymchwilio i hawliau Lloegr yn sgil y setliad datganoli.

Yn ol adroddiadau papur newydd fe fydd Comisiwn McKay yn argymell rhyw fath o bedwerydd darlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin lle fydd aelodau Lloegr yn unig yn pleidleisio ar ddeddfwriaeth Seisnig. Mae'n debyg y byddai hynny'n cael ei bortreadu fel buddugoliaeth i ochor Geidwadol y Glymblaid - y pwrs sidan yw gwobr y Democratiaid Rhyddfrydol. Ymddengys fod cydbwysedd y Glymblaid yn bwysicach nac ymateb amserol!

Beth bynnag yw'r rhesymau am yr oedi - ac mae 'na ambell i theori arall o gwmpas y lle, mae'n debyg y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn bron y cyfan o'r hyn y gofynnwyd amdano. Efallai ei bod hi'n werth aros weithiau!