Dysgwr y Flwyddyn: Y cyfweliadau
- Cyhoeddwyd
Ddydd Mercher Awst 7, mae enw Dysgwr y Flwyddyn 2013 yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych.
Mae pedwar ar y rhestr fer eleni a dyma air gan bob un ohonynt yn sôn am eu cefndir, yr hyn a'u hysgogodd i ddysgu Cymraeg a sut brofiad oedd gwneud hynny.
CRAIG AB IAGO
Er bod teulu Craig ab Iago yn hanu o Ddyffryn Nantlle, cafodd ei fagu ar hyd a lled Ewrop gan fod ei dad yn aelod o'r Awyrlu.
Yn hollol ddi-Gymraeg, roedd eisiau dysgu'r iaith ers blynyddoedd.
Cafodd ei sbarduno i fynd ati ar ôl bod mewn angladd teuluol a sylweddoli eto bod gweddill ei deulu'n gallu siarad Cymraeg.
Erbyn hyn mae'n byw ei fywyd yn llwyr trwy'r iaith Gymraeg.
MARTYN CROYDON
O Redditch y daw Martyn ond dywedodd ei fod "wedi gwirioni gyda Phen Llŷn ers cyn cof" a phan ddaeth y cyfle fe symudodd draw i Gymru i fyw, i redeg ei fusnes creu gwefannau ac astudio gyda'r Brifysgol Agored.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg, gan ddefnyddio llyfrau a thros y we ond ar ôl symud, dechreuodd fynychu gwersi Cymraeg ym Mhwllheli.
Erbyn hyn mae Martyn, sydd wedi setlo yn Llannor, wedi pasio'i arholiad Safon Uwch Cymraeg ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ers Medi 2012.
Mae hefyd yn weithgar yn ei gymuned leol, gan gynnwys gwirfoddoli gyda'r papur bro lleol, Llanw Llŷn.
KATHLEEN ISAAC
O Abertawe y daw Kathleen a phan symudodd o'r ddinas i Cross Hands bum mlynedd yn ôl, sylweddolodd pa mor gryf oedd y Gymraeg yn yr ardal leol a'i bod yn awyddus i ddysgu Cymraeg gyda'i phlant.
Dechreuodd greu bywyd Cymraeg o'i hamgylch, gan fynychu gwersi rheolaidd yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion lleol, ymarfer yr iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth, darllen llyfrau Cymraeg gyda'r plant, gwylio S4C, gwrando ar Radio Cymru, a darllen arwyddion Cymraeg mewn siopau.
Mae Kathleen yn dilyn y cwrs canolradd unwaith yr wythnos, ac yn mynd i ddosbarth "Siawns am Sgwrs" yn rheolaidd.
Dywedodd fod pawb yn ei bywyd yn gwybod ei bod yn dysgu Cymraeg ac mae hi'n dysgu geiriau newydd bob dydd, ac yn eu hymarfer gyda theulu a ffrindiau.
DARRAN LLOYD
Daw Darran Lloyd o Aberdâr ac mae'n dysgu Cymraeg ers bron pedair blynedd.
Mae'n gweithio fel hyfforddwr yn Heddlu De Cymru ac yn teimlo bod dysgu'r iaith wedi newid ei fywyd.
Erbyn hyn mae'n dysgu Dosbarth Mynediad Cymraeg Heddlu De Cymru.
Ddwy flynedd yn ôl enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn y gwaith a symbylodd hyn Darran i barhau gyda'i Gymraeg.
Gofynnodd ei dad-cu iddo gystadlu am deitl Dysgwr y Flwyddyn, a phenderfynodd Darran wneud hynny eleni er cof amdano.