Pum munud gyda Bardd y Mis: Lowri Lloyd

Lowri LloydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Mae Lowri Lloyd, sy'n wreiddiol o Landybïe ond nawr yn byw yng Nghaerfyrddin, yn aelod o dîm Beirdd Myrddin sy'n cystadlu yn rhaglen Y Talwrn bob blwyddyn.

Mae hi hefyd wedi bod yn hyfforddi tîm o ddisgyblion ysgol sy'n cymryd rhan mewn rhaglen arbennig o'r Talwrn fis Ionawr.

Yn gefnogwr y Scarlets, mae hi'n gweithio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ers 15 mlynedd ac yn aelod o uwch dîm rheoli gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg. Trwy gydol Tachwedd hi ydi Bardd y Mis ar BBC Radio Cymru.

Pryd dechreuoch chi farddoni?

Cwestiwn da, a dw i ddim yn siŵr pa bryd yn union. Yn yr ysgol, ro'n i bob amser yn hoffi chwarae â geiriau ond efallai adeg gwneud cwrs gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ddiweddarach adeg gwneud fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Gan 'mod i'n astudio gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn benodol, dechreuodd sŵn y gynghanedd apelio ac fe es i ati i ddysgu fy hun ac yna ymuno gydag Ysgol Farddol Caerfyrddin sydd wedi rhoi cymaint o anogaeth a chyfleoedd i fi ar hyd y blynyddoedd.

Lle fyddwch chi'n cael eich syniadau am gerddi a gwaith creadigol?

Mae hyn yn gallu amrywio. Mae bywyd yn brysur a dw i ddim yn cael amser i ysgrifennu hanner cymaint ag y byddwn i'n dymuno.

Mae bod yn aelod o dîm mewn talwrn neu ymryson yn wych am fod rhaid ymateb i destun - ac i destunau na fyddwn i'n eu dewis yn aml. Hefyd, mae creu cerddi yn rhywbeth personol iawn ac mae cerrig milltir mewn bywyd yn gallu fy ysgogi i greu cerdd.

Mae ceisiadau yn codi o bryd i'w gilydd hefyd i lunio englyn neu gywydd fel rhodd neu i ddathlu digwyddiad arwyddocaol. Felly, mae yna sawl ffynhonnell yn bodoli, mewn gwirionedd!

Rydych chi'n cystadlu yn Y Talwrn, yn yr ymryson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mewn eisteddfodau. Beth yw'r apêl o gystadlu gyda'ch barddoniaeth?

Mae derbyn barn rhywun arall am eich gwaith bob amser yn rhywbeth i'w groesawu. Mae hynny'n arbennig o wir mewn eisteddfodau gan fod modd cystadlu dan ffugenw, ac mae derbyn beirniadaeth gan barhau'n ddienw yn rhywbeth calonogol. Mae'r profiad hyd yn oed yn well os oes llwyddiant yn dilyn.

Mae cystadlu mewn ymryson neu dalwrn yn brofiad yr un mor arbennig a bob amser yn fraint er nad oes unrhyw le i guddio bryd hynny.

Rhaid cyfaddef, mae'r profiad bob amser yn bleserus ond yn un sydd hefyd fymryn yn anghyfforddus i mi, fel person eithaf swil yn y bôn!

Rydych chi wedi bod yn fentor ar dîm barddol Ysgol Maes y Gwendraeth ar gyfer gornest Y Talwrn yn erbyn disgyblion Ysgol Bro Myrddin. Sut brofiad oedd hyn?

Lowri gyda thimau'r Talwrn
Disgrifiad o’r llun,

Lowri yng nghystadleuaeth arbennig Y Talwrn i ddisgyblion ysgol

Cyfan gwbl wych.

Pan ges i'r gwahoddiad, doeddwn i ddim yn siŵr a fyddwn i'n ei dderbyn. Er mai fel darlithydd y dechreuais i fy ngyrfa ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw beth o'r natur yma gyda phobl ifanc ers sawl blwyddyn.

Rwy mor hapus i mi fynd amdani ac yn teimlo'n gwbl freintiedig erbyn hyn 'mod i wedi cael cwrdd a chydweithio gyda chriw mor hyfryd o bobl. Mae'n brofiad y bydda i bob amser yn ei gofio - er na allaf rannu'r canlyniad nes dyddiad darlledu'r rhaglen ar 4 Ionawr.

Nodwch y dyddiad, roedd hi'n ornest wych ac yn werth aros amdani!

Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fydden nhw a pham?

Cwestiwn da!

Rwy wedi meddwl tipyn am hyn a dw i'n meddwl 'mod i'n mynd i fod yn driw i gyfnod yr Oesoedd Canol unwaith eto.

Yn gyntaf, byddwn i wedi hoffi treulio rhyw awren fach yn 'sgidiau Gwerful Mechain er mwyn gweld sut brofiad fyddai barddoni mewn byd o ddynion.

Yna, byddwn i wedi hoffi byw diwrnod fel Iolo Goch ar adeg mor gyffrous yn ystod ein hanes fel cenedl a chael cwrdd ag Owain Glyndŵr yn enwedig. Byddai profi'r wledd sy'n cael ei disgrifio yn ei gerdd orchestol i Sycharth yn brofiad gwych heb sôn am gael gweld pensaernïaeth y llys ei hun.

Tamed bach o fwyd, cwrdd ag eicon hanesyddol a busnesan o gwmpas ei gartref am ddiwrnod cyfan i mi felly. Fyddai ddim ots gen i fod wedi ysgrifennu'r gerdd chwaith...!

Pan fyddwch chi ddim yn ysgrifennu, be fyddwch chi'n hoffi'i wneud i ymlacio?

Lowri a'i theulu yn dilyn y ScarletsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Lowri gyda'i theulu a'i diweddar dad yn dilyn y Scarlets

Treulio amser gyda'r teulu, sef Ioan fy ngŵr, a Siwan ein merch. Mae'r tri ohonom yn hoff iawn o deithio a gweld pethau newydd.

Ers yn ifanc, yng nghwmni fy niweddar dad, rwy hefyd yn cefnogi'r Scarlets ac erbyn hyn yn cyfuno hynny gyda theithio lle bo'n bosib.

Ry'n ni eisoes wedi bod i Toulouse, Glasgow a Belfast ac yn cynllunio taith i Bordeaux cyn hir.

Nid fan hyn yw'r lle i fynd i wleidyddiaeth Undeb Rygbi Cymru ond mae meddwl am y syniad o golli profiadau sydd mor ganolog i ni'n bersonol, ac yn rhan o'n hunaniaeth a'n treftadaeth yn peri loes meddwl. Gobeithio y daw rhywrai at eu coed yn fuan!

Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?

Bardd y Mis! Diolch am y cyfle.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.