O gopa Moel-y-Gest i gopa Ama Dablam yn Yr Himalaia

Catrin Meurig ar gopa Ama DablamFfynhonnell y llun, Catrin Meurig
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Meurig ar gopa Ama Dablam

  • Cyhoeddwyd

Mae Catrin Meurig o Borthmadog yn wreiddiol, newydd ddychwelyd i'w chartref yn Llundain ar ôl dringo i gopa Ama Dablam, un o fynyddoedd mwyaf eiconig Yr Himalaia.

Mae'r copa'n 6812 metr o lefel y môr, ac felly'n dros chwe gwaith uwch na'r Wyddfa sy'n 1085 o fetrau.

A hithau erbyn hyn wedi cwblhau pob math o heriau ledled y byd gan gynnwys rhedeg Marathon des Sables drwy anialdir y Sahara, ras mynydd y TDS o amgylch Mont-Blanc a heriau sgio mynydd gan gynnwys cwblhau her y Mezzalama yn yr Alpau, mae'n dweud mai ei magwraeth yn Eryri sydd wrth wraidd ei hysfa am antur.

Meddai: "Pan o'n i'n fach o'n i'n mynd i fyny Moel-y-Gest, rhyw fynydd bach jest tu allan i Borthmadog ac mi oedd fy nhad yn dringo lot felly mae'n siŵr bo' fi wedi arfer bod allan, ac un mynydd bach yn arwain at fynydd mwy. Dwi dal wrth fy modd yn rhedeg o gwmpas Eryri pan fydda i adra."

Mynd amdani

Ac mae anadlu tra'n dringo mynydd yn dipyn haws yn Eryri nac ar fynyddoedd uchel Yr Himalaia.

Rai dyddiau ers dychwelyd adref o Nepal lle roedd ei thaith i gopa Ama Dablam yn cychwyn mae Catrin yn "falch o allu anadlu'n gwbl ddiymdrech eto" ar ôl dringo mewn aer teneuach, lle mae anadlu digon o ocsigen i'r gwaed yn mynd yn anoddach fesul cam wrth esgyn.

Felly beth sbardunodd Catrin i wneud yr her?

Eglurai: "Yn 2012 o'n i wedi bod ar trek yn cerdded o Lukla i base camp Everest ac ar yr ochr dde ar yr ail neu drydydd diwrnod ti'n mynd rownd rhyw gongl bach ac mae yna glamp o fynydd yn dod i dy olwg sef Ama Dablam.

ama dablamFfynhonnell y llun, Catrin Meurig
Disgrifiad o’r llun,

Catrin a'i ffrind yn edrych tuag at gopa Ama Dablam yn ystod eu her eleni

"Mae'r copa'n bigyn trawiadol iawn ac mae'n cael ei alw'n Matterhorn Yr Himalaia. Ar y pryd wnes i feddwl y basa'n wych o beth mynd i'w gopa rhyw ddydd ond ar y pryd yn 2012 do'n i ddim yn siŵr os oedd gen i'r sgiliau iawn i wneud."

A hithau wedi cyflawni her ar ôl her yn y blynyddoedd ers hynny, roedd Catrin yn ddigon hyderus yn ei ffitrwydd a'i sgiliau mynydda a dringo i gyflawni'r gamp eleni.

Trefnodd ei bod hi, tywysydd o Chamonix a dau o dywyswyr Sherpa o Nepal yn rhoi cynnig ar yr her.

Catrin gyda'i thîm bychan o bump ar gopa Ama DablamFfynhonnell y llun, Catrin Meurig
Disgrifiad o’r llun,

Catrin gyda'i thîm bychan o bump ar gopa Ama Dablam

Ar ôl hedfan o Kathmandu, prifddinas Nepal, i faes awyr Lukla yn y mynyddoedd, buodd y tîm bychan o fynyddwyr yn dringo am bron i fis i gyrraedd copa Ama Dablam.

Meddai am ran cyntaf y daith: "Mae'r cerdded o Lukla i waelod y mynydd yn cymryd rhyw wythnos a jest mynd dow dow achos fod yr uchder yn gymaint o broblem allan yn Nepal.

"Wedyn mae pethau'n dechrau mynd yn anoddach ar ôl rhyw 2000-3000 o fetrau o uchder lle ti'n dechrau teimlo allan o wynt.

"Ond dwi reit ffodus 'mod i wedi treulio lot o amser allan yn Chamonix yn ymarfer ar fynyddoedd uwch na sydd yna yng ngogledd Cymru."

Catrin gyda phrif Sherpa ei thaithFfynhonnell y llun, Catrin Meurig
Disgrifiad o’r llun,

Catrin gydag un o dywyswyr Sherpa ei thaith. Mae'r tywyswyr Sherpa lleol yn fynyddwyr profiadol ac wedi hen arfer anadlu yn yr aer tenau

Nes at y copa

Ar ôl cyrraedd gwersyll Ama Dablam Base Camp, sydd ar uchder o 4,600 o fetrau, roedd yr her wir yn cychwyn i fynyddwr profiadol fel Catrin. O'r fan yma, roedd tridiau caled o ddringo mewn aer tenau gyda'r tymheredd yn gostwng i -20 gradd gyda'r nos.

Gwersylla yn Ama Dablam Basecamp a'r Yak yn gwmniFfynhonnell y llun, Catrin Meurig
Disgrifiad o’r llun,

Cyrraedd Ama Dablam Basecamp a'r Yak yn gwmni

Catrin sy'n disgrifio'r tridiau olaf i'r copa:

"Yn dechnegol maen nhw bob tro yn d'eud fod copa Ama Dablam yn anoddach nac Everest ac mae'n bigyn sy'n cael ei gysidro yn bigyn technegol.

"Oedd yna ddarna' reit frawychus lle oedd yna jest gwacter anferth oddi tanan ni a jest cerdded ar ryw grib o eira go gul. Oedd yna lot o ranna' lle oeddan ni gorfod bod yn ofalus iawn ond 'swn i ddim yn deud fod y dringo ei hun yn arbennig o anodd jest bod angen bod wedi arfer 'chydig.

"Y darn fwyaf heriol oedd bod allan o wynt drwy'r amser, dyna oedd y sialens i fi yn bersonol, ond cyn mynd am Ama Dablam ei hun athon ni fyny copa arall sydd 6119m sef Lobuche East.

"Gyda chyrraedd copa Lobuche East mi oeddan ni yn cysgu ar 5200m, wedyn mynd i fyny i 6119m am y copa.

"Mi oedd hyn oll a chysgu ar y fath uchder wedi ei gynllunio'n ofalus fel ein bod ni wedi ymarfer anadlu mewn aer mor denau cyn mynd am gopa Ama Dablam."

Un o rannau technegol y tridiau olafFfynhonnell y llun, Catrin Meurig
Disgrifiad o’r llun,

Un o rannau technegol y tridiau olaf

Sut oedd yr uchder yn effeithio Catrin?

"Mae o fath â cael pen mawr ar ôl noson drom. Pan mae pen rywun yn hongian dydi rywun ddim isio bwyta llawer achos does yna ddim digon o ocsigen yn mynd i'r stumog i dreulio yn dda ac mae rhywun yn mynd yn oer lot cynt achos does 'na ddim digon o ocsigen yn mynd i'r traed a dwylo."

Yn y tridiau olaf i gopa Ama Dablam her fawr arall oedd yr oerfel, gwersylla ar greigiau a bwyta:

"Roedden ni'n gosod ein pebyll ar greigiau ac ar yr onglau rhyfeddaf felly doedd cwsg ddim yn hawdd. Hynny oll a bod yn goblyn o oer a gwisgo bod dim oedd gynnon ni.

"O ran bwyd, mae rhywun yn gorfodi ei hun i fwyta ar y fath uchder ac yn rhoi dŵr poeth ar fwyd wedi ei sychu i gael digon o galorïau."

Roedd rhaid cychwyn mynydda'n gynnar yn y bore hefydFfynhonnell y llun, Catrin Meurig
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid cychwyn mynydda'n gynnar yn y bore hefyd

Cyrraedd y copa

Mae Catrin yn disgrifio'r corwynt o emosiynau wnaeth ei tharo ar y diwrnod olaf.

"Roedd yn andros o job aros yn bositif, mi oedd o'n teimlo yn undonog ac yn anodd anadlu ond roedd rhywun yn gorfodi ei hun i ddal i fynd.

"Wedyn wrth fynd yn nes at y copa, mae yna fwy o olau', mae pethau'n dechra ysgafnhau er bod pethau dal yn anodd. A'r peth nesa, rwyt ti yna!

"Roedd y lliwiau a'r olygfa yn ffantastig. A ti'n teimlo y fath ryddhad. Ro'n i'n gweld Everest, Lhoste a Cho You yn uwch na fi o 'nghwmpas.

"Roedd o'n anodd coelio pa mor uchel oedden nhw. Gan fod Ama Dablam yn sefyll ar ei ben ei hun rwyt ti'n teimlo fel dy fod di ar ynys fach yn sbio o gwmpas ar rhain i gyd. Bryd hynny, ro'n i'n teimlo – waw!"

Ar ôl chwarter awr ar y copa, cychwynnodd Catrin a'i thîm i lawr oedd "yn daith dipyn haws ac yn cynnwys lot o abseilio".

Catrin, ei ffrind a'r tywysydd o Chamonix ar gopa Ama DablamFfynhonnell y llun, Catrin Meurig
Disgrifiad o’r llun,

Catrin, ei ffrind a'r tywysydd o Chamonix ar gopa Ama Dablam

Dyw taith Catrin i gopa Ama Dablam ddim yn swnio fel rhywbeth a fyddai at ddant pawb. Felly pam rhoi ei hun drwy'r fath her?

"Ar y cyfan dwi'n licio sialens gorfforol lle mae rhywun yn meddwl 'fedra i ddim meddwl am ddim arall ar hyn o bryd heblaw rhoi un droed o flaen y llall' a teimlo wedyn fy mod i wedi cyflawni rhywbeth."

Ei her nesaf yw ras sgio mynydd Patrouille des Glaciers ym mis Ebrill.

A beth am Everest? Ydy hi awydd dringo mynydd ucha'r byd rhyw ddydd?

"Dwi'm yn siŵr iawn i fod yn hollol onest; well gen i 'neud pethau fwy technegol, fwy diddorol na jest tynnu ar y jumar (dyfais dringo). Ond os fasa'r cyfle yn codi am ryw reswm fasa'n anodd d'eud na."

Ond cyn unrhyw her arall mae ei theulu yng ngogledd Cymru "yn falch ei bod hi adra yn saff".

Gwrandewch ar Catrin yn sgwrsio ar raglen Aled Hughes:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: