Y gŵr 91 oed o Gerrigydrudion sy'n feistr treialon cŵn defaid

GwynnFfynhonnell y llun, Mari Lloyd Roberts
  • Cyhoeddwyd

Mae'r ffermwr Gwynn Lloyd Jones o Gerrigydrudion yn enwog am gystadlu mewn treialon cŵn defaid ar hyd ei oes.

Mae bellach yn 91 oed, ac yn parhau i ymroi i faes cŵn defaid, yn hyfforddi ffermwyr ifanc yn y gelfyddyd hynod o drin cŵn defaid – celfyddyd mae wedi bod yn feistr arni ers bod yn hogyn ifanc.

Cafodd ei anrhydeddu ym mis Medi gyda gwobr y Cleddyf Wilkinson yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn Y Waun, a gafodd ei gyflwyno iddo gan y Dywysoges Anne.

Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu'n flynyddol i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i'r Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol ac i dreialon cŵn defaid yn ehangach.

Siaradodd Gwynn am ei yrfa ddisglair yn cystadlu mewn treialon cŵn defaid a'u hyfforddi ar hyd ei oes ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ar 20 Tachwedd.

defaidFfynhonnell y llun, Getty Images

Soniodd Gwynn wrth Shân Cothi am sut y datblygodd ei gariad tuag at gŵn defaid:

"O'n i'n dechre (cystadlu) yn 1956. O'n i'n licio'r cŵn ac o'dd y cŵn yn licio fi!

"Pyps bach o'n nhw gan ewyrth i fi. O'n i'n 10 oed amser hynny. O'dd brawd 'y nhaid yn y busnes cŵn defaid, a dwi'n meddwl ei fod o'n cario'n y gwaed."

Prynodd Gwynn gi defaid yn 1949 o'r enw Gwenno am £5 - ac fe gafodd ei annog i ymaelodi â'r Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol, er mwyn gallu bridio'r cŵn defaid ei hun.

Gadawodd Gwynn yr ysgol yn 15 oed a mynd i weithio ar fferm leol.

Meddai: "O'dd 'y nghyflog i am wythnos yn £1.05. O'n i 'di talu £5 am y ci bach ac am yr aelodaeth (gyda'r Gymdeithas Cŵn Defaid) wedyn hefyd.

"O'n i'n gorfod gweithio am 10 wythnos i gael y pres i gychwyn.

"Oriau mawr, a 'chydig o gyflog amser hynny. Ond dyna'r oes oedd hi ynde?"

GwynnFfynhonnell y llun, Mari Lloyd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Gwynn yn cynrychioli Cymru yn y Sioe Cŵn Defaid Ryngwladol yn Blackpool yn 1959

Yn fuan ar ôl dechrau ymdrin â'r cŵn defaid, fe gafodd Gwynn gi yn rhodd gan ffermwr cyfagos iddo.

Roedd y ci'n un styfnig ac yn cambihafio – doedd y ffermwr yn methu gwneud dim gydag e!

Felly, cafodd Gwynn yr her o hyfforddi'r ast a'i thrawsnewid yn gi ufudd. Ar ôl cyfnod o hyfforddi, roedd y ci'n magu steil ac yn barod i gystadlu mewn sioeau lleol.

Ar ôl i'r ci berfformio'n wefreiddiol yn Nhreialon Cŵn Defaid Rhuthun yn 1950, cynigiodd Jim Holmes - ffermwr adnabyddus o Swydd Efrog - bris da am y ci a'i brynu. Gwerthodd y ci yn y pen draw i ffermwr yn America.

Hyfforddi yn America

Ym mis Mai 1951, daeth Jim Holmes i fferm Nant y Pyd, Sir Conwy, lle'r oedd Gwynn yn gweithio ar y pryd. Roedd ganddo gynnig arbennig i Gwynn – ei fod yn symud i fyw i America i hyfforddi cŵn defaid am gyfnod.

Felly, yn 17 oed, fe baciodd Gwynn ei fagiau a symud i fyw i'r Unol Daleithiau, lle bu am ddwy flynedd yn hyfforddi cŵn defaid.

Meddai Gwynn am y cyfnod dramor: "Roedd yn fraint cael gweld lot fawr o betha'. O'dd 'na gŵn da iawn yn America – o'n nhw wedi cael cŵn gorau Prydain ers blynyddoedd.

"Ond do'dd yr handlers ddim gystal â'r rhai yn y wlad yma!

"Mae'n cŵn ni ar y ffarm bob dydd – cŵn gwaith ydyn nhw. Gyda llawer o'r cŵn (yn America), o'n nhw 'mond yn trainio nhw i sioe gŵn.

"Ond mae'n cŵn ni'n gweithio'n hel defaid o hyd. Mae yn eu gwaed!"

Llwyddiant wrth gystadlu

Yn 1956, yn 22 oed, dechreuodd Gwynn gystadlu yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol gyda'i ast Gwenno - sef 'Pencampwriaethau'r Byd' ar gyfer treialon o'r fath.

"'Na'th hi droi allan yn ast dda iawn 'de", meddai Gwynn.

"Pan roedd hi'n chwech oed a minnau'n 22 oed es i i'r National yn y class bugeiliaid. Ces i ail efo hi yn Hwlffordd.

"O'n i 'di cystadlu yn y sioea' bach yn gynta. O'n i'n mynd yn well.

"Oedd yr International (Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol) yn Llandudno wedyn."

GwynnFfynhonnell y llun, Mari Lloyd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Gwynn ar ei fferm Defaidty yng Nghwmtirmynach

Ar fore'r gystadleuaeth yn Llandudno, rhoddodd Gwenno enedigaeth i gŵn bach, ac ni chafodd gystadlu – oedd yn siom aruthrol.

Parhaodd Gwynn i gystadlu gyda Rex, mab i Gwenno. Yn 1958, daeth yn ail eto yn nosbarth y bugeiliaid yn y Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol.

Cafodd fwy o lwyddiant yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol hefyd, gan ennill ei le unwaith eto yn nhîm Cymru yn Blackpool yn 1959, gan ddod yn drydydd yn adran y bugeiliaid.

Aeth ymlaen i gael gyrfa cystadlu ddisglair iawn yn y sioeau cŵn defaid mawr. Mae Gwynn wedi cynrychioli Cymru 14 o weithiau yn y Bencampwriaeth Ryngwladol ar hyd y blynyddoedd.

Yn 1959 yng Nghaerdydd, enillodd wobr y cystadleuydd ieuengaf yn y Bencampwriaeth Ryngwladol, ac yn 2005 yn Iwerddon, enillodd y wobr am y cystadleuydd hynaf.

Mae cŵn Gwynn wedi cael cryn dipyn o glod ar hyd y blynyddoedd. Cawson nhw eu benthyg i redeg ar sioe deledu enwog y BBC, One Man and His Dog a'u benthyg i redeg yn y Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol a Rhyngwladol gan drinwyr eraill.

GwynnFfynhonnell y llun, Mari Lloyd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Gwynn yn cynrychioli Cymru yn y treialon cŵn defaid yn yr 1950au

Yn disgrifio'r grefft o hyfforddi cŵn defaid, meddai Gwynn: "Mae 'na lot o lwc ynddi hefyd. Ma' cŵn yn dallt defaid sydd yn help mowr i chi.

"Mae'r cŵn gora' gyda cysylltiad agos gyda'r defaid ar hyd y ffordd."

Y dyddiau yma, mae Gwynn yn parhau i hyfforddi ffermwyr ifanc ar sut i drin a gweithio cŵn defaid, ac yn parhau i fod yn aelod blaenllaw o'r Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol.

GwynnFfynhonnell y llun, Mari Lloyd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y Dywysoges Anne yn cyflwyno gwobr Cleddyf Wilkinson i yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol eleni, a gynhaliwyd yn Y Waun

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb