Bet Jones yn cipio medal Daniel Owen
- Cyhoeddwyd
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 yw Bet Jones o Riwlas, ger Bangor.
Roedd chwech wedi cystadlu a'r dasg oedd llunio nofel nad oedd wedi cael ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Daeth Ms Jones, dan y ffugenw Seiriol Wyn, i'r brig am ei nofel 'Craciau'.
Y beirniaid eleni oedd Geraint Vaughan Jones, Bethan Hughes a Gwen Pritchard Jones.
Cafodd y feirniadaeth ei thraddodi gan Geraint Vaughan Jones, a ddisgrifiodd waith Ms Jones fel "nofel hyderus, ddifyr ac amserol".
Stori drychineb yw'r gwaith buddugol yn disgrifio fel mae proses ffracio am nwy ar Ynys Môn yn arwain at greu daeargryn sy'n difrodi rhannau helaeth o dref Llangefni ac yn bygwth diogelwch Cob Malltraeth a gorsaf niwclear Wylfa.
'Byd credadwy ond dieithr'
Dywedodd y beirniad, Geraint Vaughan Jones:
"Mae hon yn nofel hyderus, ddifyr ac amserol y bydd darllenwyr yn sicr yn ei mwynhau ac mae'r awdur yn llwyddo'n arbennig o dda i greu byd credadwy ond dieithr iawn, a hynny heb unrhyw gam gwag."
Cafodd Bet Jones ei geni a'i magu ym mhentref Trefor, Gwynedd. Ar ôl mynychu Ysgol Gynradd Trefor, Ysgol Frondeg ac Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth i wneud gradd yn y Coleg Normal ym Mangor.
Wedi treulio cyfnod yn dysgu yn Lerpwl, dychwelodd i ogledd Cymru i ddechrau teulu.
Bu'n dysgu yn Ysgol y Graig, Llangefni, am 24 mlynedd. Mae bellach wedi ymddeol.
Mae wedi cyhoeddi dwy nofel cyn hyn - Beti Bwt, a ddaeth yn agos i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau yn 2007, a Gadael Lennon, a gyhoeddwyd yn 2009.
Cyflwynwyd y fedal a gwobr ariannol o £5,000 mewn seremoni yn y Pafiliwn brynhawn dydd Mawrth, Awst 6.
Roedd Cymdeithas Gymraeg Dinbych wedi cyfrannu £2,500 at y wobr, gyda £1,500 yn rhoddedig gan Ymddiriedolaeth D. Tecwyn Lloyd, a £1,000 gan Siop Clwyd, Dinbych.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2013