Nofel am ddinistrio tref Llangefni yw Craciau gan Bet Jones
- Cyhoeddwyd
Tagfa draffig oedd man cychwyn y nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen i Bet Jones o'r Rhiwlas ger Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013, ddydd Mawrth.
"Roeddwn i mewn ciw rhywdro i groesi'r bont ar y ffordd adref o Sir Fôn. Ac roedd hynny ychydig bach ar ôl y daeargryn yn Siapan . Ac roedd y ciw yma'n hir a finna'n dechrau meddwl, beth os y buasai yna rywbeth yn digwydd ar Ynys Môn, sut y buasai pawb yn medru dianc oddi yno mewn pryd," meddai wrth siarad am ei nofel toc wedi'r seremoni ym mhafiliwn y Brifwyl.
"Tros y dyddiau ac wythnosau wedyn mi wnaeth y stori adeiladu yn fy mhen i a meddwl beth allasai achosi daeargryn ym Môn.
"Yr oedd yna rhyw sôn am ffracio wedi bod ar y teledu ac am ddaeargryn bach yng nghyffiniau Blackpool a dyma benderfynu ar hynny," meddai.
Daeargryn
Yn y nofel y mae tref Llangefni yn cael ei ddinistrio gan y daeargryn.
Yn awdur dau lyfr blaenorol, cyfrol hunangofiannol Beti Bwt a dilyniat dychmyggol iddi, Gadael Lennon, dywedodd Bet Jones bod ei nofel Daniel yn gwbl wahanol i'r ddwy hynny.
A hithau wedi bod yn athrawes yn Llangefni dywedodd iddi fanteisio ar ei hadnabyddiaeth o'r dref ac er iddi newid enwau strydoedd mae wedi cadw'r enw Llangefni ar dref y nofel.
Er yn ddisgrifiad o ganlyniadau trychineb dywedodd bod ymateb y cymeriadau yn ran yr un mor bwysig o'r nofel.
"Mae hi wedi ei hysgrifennu mewn golygfeydd a'r rheini yn dechrau am chwech o'r gloch y bore dydd Sul ac yr ydym yn cael cipolwg ar beth sy'n digwydd i bob cymeriad yn ystod y dydd," meddai.
Dywedodd iddi fwynhau yr ymwneud hwn â chymeriadau.
Dywedodd hefyd i sgrifennu'r nofel roi mwynhad gwahanol iddi i'w dau lyfr blaenorol.
'Stori gofiadwy'
Yn y gynulleidfa yn Ninbych i'w gweld yn cael ei harwisgo a Medal Goffa Daniel Owen yr oedd ei dwy ferch a'i gŵr - ei dwy ferch heb ddarllen ei nofel cyn ei chyhoeddi ond ei gŵr wedi bod yn rhan o'r gyfrinach.
"Roedd fy ngŵr druan yn gorfod gweld pob pennod wrth imi eu 'sgrifennu. Mae o wedi gorfod byw efo'r peth . Mae'n siŵr ei fod o wedi laru," meddai.
Er i Craciau gael ei disgrifio fel stori fwyaf cofiadwy y gystadleuaeth cymysg oedd canmoliaeth Geraint Vaughan Jones yn traddodi'r feirniadaeth ar ran Bethan M Hughes a Gwen Pritchard Jones.
Canmolodd ddawn disgrifio yr awdur a naturioldeb ei deialog lithrig ond ar y llaw arall dywedodd bod y naratif mewn rhannau yn gyffredin o bytiog gyda gorddefnydd o frawddegau byrion un ferf.
"Serch hynny, mae'r stori'n afaelgar ac wedi'i chynllunio'n ofalus," meddai.
Ac yn llawn haeddu'r wobr...
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2013