Toesen i'r tywyllwch
- Cyhoeddwyd
- comments
Reit, mae'n bryd pacio bag a'i heglu hi am Ynys Môn! Ydy, mae'n adeg isetholiad - digwyddiad sydd i'r uned wleidyddol yr hyn ydy'r cyp ffeinal i fois a merched yr adran chwaraeon.
Fel popeth arall wrth gwrs dyw isetholiadau ddim fel y buon nhw, hynny yn bennaf oherwydd penderfyniad y pleidiau i roi'r gorau i'r arfer o gynnal cynadleddau newyddion dyddiol. Roedd y rheiny'n gyfle i'r wasg groesholi a chroeshoelio'r ymgeiswyr a'r mawrion oedd yn ymgyrchu ar eu rhan. Sbort i ni, artaith iddyn nhw!
Dydw i ddim yn gwybod faint o isetholiadau yr wyf wedi gohebu arnyn nhw ar hyd y blynyddoedd. Newbury, Mynwy, Christchurch, Castell-nedd, Walton, Govan - mae un yn llifo i'r nesaf rywsut.
Eto i gyd mae ambell un yn aros yn y cof a phe bawn i'n gorfod dewis fy hoff isetholiad erioed rwy'n meddwl taw un Bro Morgannwg yn 1989 fyddai hwnnw. Mae 'na sawl rheswm hynny. Mae unrhyw etholiad lle gall Rod Richards arddangos ei ochr rotweilar-aidd yn mynd i fod yn ddifyr ond megis cychwyn ar sbort isetholiad y Fro oedd taranu'r Tori.
Dyna i chi ymgeiswyr y man bleidiau Lindi Saint Claire (Miss Whiplash) o'r "Corrective Party" a David Black o'r "Christian Alliance". Teg yw dweud nad oedd y ddau yna yn gweld llygad yn llygad ynghylch popeth! Yn y diwedd roedd temtasiynau Miss Whiplash yn drech nac efengyl Mr Black - o leiaf o safbwynt denu pleidleisiau!
Bro Morgannwg oedd y tro olaf i blaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol a Chymdeithasol neu'r "Salads" wynebu gweddillion yr SDP o dan arweiniad David Owen. Fe geisiodd y ddwy blaid ein hudo gyda'r "Salads" yn cynnig croissant i'r wasg yn eu cynadleddau dyddiol a'r SDP â llond plât o donuts ar ein cyfer.
Wythnos cyn isetholiad y Fro cynhaliwyd isetholiad arall ar lannau Merswy ac yn hwnnw fe gurwyd ymgeisydd yr SDP gan Screaming Lord Sutch. Embaras. Duw a'n gwaredo! Beth i'w wneud?
Doedd 'na ddim awgrym ar y noson bod yr SDP am roi'r ffidl yn y to yn sgil ei darostyngiad ond pan gyrhaeddodd criw'r wasg ei swyddfa yn y Barri ar y bore wedyn roedd swyddog yn sefyll y tu fas yn ei ddagrau.
"I'm sorry guys, there's no more doughnuts" meddai. Dyna i chi feddargraff ar blaid!
Rwy'n amau y bydd ambell i blaid yn wynebu canlyniad siomedig ym Môn ond beth bynnag sy'n digwydd rwy'n gobeithio y bydd y donuts yn dal i ddod!
Mae 'na un wers fach arall i'w dysgu o Fro Morgannwg. Fe enillodd Llafur yr isetholiad yn gymharol hawdd. Ar sail y canlyniad hwnnw fe ddechreuodd ambell i Lafurwr gredu bod yr etholiad cyffredinol nesaf "yn y bag". Pan ddaeth yr etholiad hwnnw yn 1992 collwyd Bro Morgannwg a chollwyd yr etholiad.
Mae isetholiadau'n sbort - ond dyw ddim wastad mor ddadlennol â hynny.