Ystyried gorchymyn gorfodol i brynu Ysbyty Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeiladau wedi cael eu difrodi dros y blynyddoedd

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried gwneud cais ddydd Mawrth am orchymyn prynu gorfodol i hen ysbyty seiciatryddol gogledd Cymru yn Ninbych.

Cafodd yr ysbyty ei gau yn 1995, ac ers hynny mae'r adeiladau wedi eu difrodi a'u fandaleiddio.

Roedd y perchnogion, Freemont Limited yn bwriadu ail-ddatblygu'r safle, ond daeth y caniatâd cynllunio i ben yn 2009.

Nawr, mae swyddogion yn annog y cabinet i wneud cais am orchymyn prynu gorfodol.

Mae rhanau o'r adeilad yn rhestredig

Yn ôl y sir mae'r perchnogion presennol wedi methu a diogelu a gwella'r adeilad.

Yn y gorffennol, mae cyfreithiwr Freemont, Ayub Bhailok wedi dweud y byddai'r cwmni yn gwrthwynebu gorchymyn prynu, ac wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i weithred y cyngor.

Datblygu

Roedd Freemont Limited, wedi cael caniatâd i adeiladu 280 o dai, busnesau a chyfleusterau i'r gymuned ar y safle.

Fel rhan o'r cynllun byddai'r adeiladau rhestredig wedi cael eu hadnewyddu, ond daeth y caniatâd cynllunio i ben yn 2009.

Mae'r cyngor eisoes wedi gyrru gweithwyr i'r safle, oherwydd pryder am gyflwr yr adeiladau o oes Fictoria.

Dywedodd y cyngor bod y gwaith wedi costio £930,000, ond bod y perchnogion heb dalu am y gwaith yma eto.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hen ysbyty wedi bod ar gau ers 1995

Ymddiriedolaeth

Roedd gan Freemont Limited hyd at wythnos yma i ymateb i orchymyn adfywio, ond dydy hynny heb ddigwydd.

Nawr mae'r cyngor yn ystyried gwneud cais am orchymyn prynu gorfodol.

Mae sefydliad newydd wedi ei greu i gymryd cyfrifoldeb am y safle pe bai'r cais am orchymyn yn llwyddiannus, ond gall y broses gymryd hyd at 18 mis.

Byddai prisiwr annibynnol yn rhoi cymorth i'r cyngor gyda'r cais, ond mae adroddiad i'r cabinet yn rhybuddio'r cyngor rhag cymryd gormod o gyfrifoldebau.

Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r cynllun terfynol.