Y Gemau Ail Gyfle

Ers i'r Arglwyddi etifeddol gael eu danfon yn ôl i'w stadau neu mewn ambell achos eu fflatiau cyngor mae aelodaeth siambr uchaf Senedd Prydain i fod i adlewyrchu canlyniad yr Etholiad Cyffredinol blaenorol.

Mae'n ffaith fach ddiddorol bod Tŷ'r Arglwyddi heddiw yn well adlewyrchiad o'r canrannau o'r bleidlais a enillwyd gan y gwahanol bleidiau yn etholiad 2010 nac yw Tŷ'r Cyffredin. Dyw'r Ceidwadwyr a Llafur ddim yn manteisio o'r gyfundrefn "cyntaf i'r felin" ar y meinciau cochion.

Mae'n werth nodi hefyd bod y ganran o Arglwyddi sy'n perthyn i leiafrif ethnig yn uwch na'r canran yn Nhŷ'r Cyffredin a bod union yr un canran o fenywod yn y ddau dŷ.

Ond os ydy Ty'r Arlwyddi yn adlewyrchiad go dda o gefnogaeth y pleidiau ar lefel Brydeinig go brin bod hynny'n wir am Gymru. Pan fydd Christine Humphreys yn lapio'r stôl ermin o gwmpas ei hysgwyddau fe fydd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru chwe aelod yn Nhŷ'r Arglwyddi - tua'r un nifer o Arglwyddi Cymreig sydd gan Lafur a mwy na dwbl y nifer sydd gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

Nawr mewn un ystyr mae niferoedd Arglwyddi Cymreig y Democratiaid Rhyddfrydol ond yn brawf bod gan Kirsty Williams dipyn o glowt o fewn ei phlaid. Pwy all ei beio am ddefnyddio'r clowt hwnnw i gryfhau llais Cymru yn San Steffan?

Serch hynny o gofio trac record pobl fel Roger Roberts, Martin Thomas a Mike German mewn etholiadau seneddol mae'n rhaid eu bod nhw'n ddiolchgar am y gemau ail gyfle!

Onid yw hi'n rhyfedd hefyd bod gan Ddemocrataid Rhyddfrydol Cymru fwy a Arglwyddi nac o Aelodau Cynulliad?