Bale: Seren "gyda'i draed ar y ddaear"

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae delwedd Gareth Bale eisoes yn gyfarwydd ym mhrifddinas Sbaen

Mae bywyd Gareth Bale wedi newid am byth.

Gyda'r Cymro wedi ymuno â 'Galacticos' Real Madrid am y ffi fwyaf erioed yn hanes pêl-droed, mae'r disgwyliadau yn mynd i roi pwysau aruthrol ar ei ysgwyddau.

Ond i'r rhai sy'n ei adnabod, dyw'r sylw ddim yn debygol o newid Bale. Dyw e ddim yn yfed alcohol, a phan mae ganddo amser i ffwrdd o'i waith mae'n hoffi ymweld â'i fam yng Nghaerdydd.

Mae ei gyfeillion yn ei ddisgrifio fel dyn ifanc cwrtais, diymhongar. Mae'n canlyn gyda'i gariad ers dyddiau ysgol, Emma Rhys-Jones, ac mae mwyafrif y ffrindiau yna yn gyfeillion o'i ardal ei hun.

Er hynny mae ochr ddireidus i ymosodwr Cymru, ac mae'n debyg ei fod yn hoff o chwarae castiau ar ei gyd-chwaraewyr yn yr ystafell newid, ond ei gariad at bêl-droed yw'r elfen amlycaf o'i fywyd.

Sawl camp

Fel disgybl yn Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd yng Nghaerdydd roedd yn gallu rhedeg 100m mewn 11.4 eiliad. Ond roedd hefyd yn cystadlu mewn rygbi, hoci a phêl-droed ac yn cynrychioli Cymru mewn rhedeg traws-gwlad ac yn rasys 400m, 800m a 1500m (gydag amser anhygoel o 4'8").

Pan oedd yn naw oed, fe'i gwelwyd yn chwarae gan un o sgowtiaid Southampton, Gareth Hale, mewn cystadleuaeth pump-bob-ochr yng Nghasnewydd ac fe gafodd gynnig cyfnod prawf. Roedd hynny'n ddechrau cyfnod o naw mlynedd gyda'r clwb.

Am ei fod yn fachgen tenau iawn, roedd amheuaeth a fyddai'n cael cynnig ysgoloriaeth llawn amser gyda Southampton. Un fu'n goruchwylio'i ddatblygiad oedd Huw Jennings:

"Roedd hi'n agos iawn am gyfnod," meddai. "Petawn i wedi gadael i Gareth fynd, fe fyddai hynny'n un o eiliadau gwaethaf fy ngyrfa, ond mae'n wych gweld ei ddatblygiad ers hynny."

'Traed ar y ddaear'

Ychwanegodd ei gyn-athro ymarfer corff yn yr ysgol, Gwyn Morris: "Roedd ganddo bopeth - y gallu a'r agwedd iawn.

"Mae e'n dal yn ddiymhongar gyda'i draed ar y ddaear. Pan mae'n dod ar wyliau mae'n dod adre i Gaerdydd.

"Mae'n seren fyd eang yn nhermau pêl-droed ac fe fydd yn ysbrydoliaeth i blant ym mhobman."

Yng nghoridorau'r ysgol yn yr Eglwys Newydd mae lluniau enwogion yr ysgol. Ochr yn ochr â Bale mae llun y seiclwr Geraint Thomas, Elliot Kear o dîm rygbi 13 Cymru a'r Bradford Bulls ac wrth gwrs capten Cymru a'r Llewod, Sam Warburton, ac ychwanegodd Mr Morris:

"Mae'r ysgol yn falch iawn ohonyn nhw i gyd, ond hefyd yn falch o bob disgybl sy'n gwireddu'u potensial.

"Ond roedd Gareth yn anhygoel. Roedd e cystal fel ein bod ni'n ceisio'i annog i ddefnyddio'i droed dde fel bod y plant eraill yn cael cyfle hefyd!"

Pob lefel

Roedd datblygiad Bale yn gyflym iawn. Yn 2006 fe chwaraeodd i Gymru dan-17, dan-19 a dan-21, ac yna yn 16 mlwydd a 315 diwrnod oed fe enillodd ei gap cyntaf i Gymru mewn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Trinidad a Tobago.

Daeth i sylw mawrion yr Uwchgynghrair, a buan iawn y symudodd i Tottenham Hotspur am ffi o £5 miliwn yn wreiddiol, er i'r swm gynyddu i £10 miliwn oherwydd ei lwyddiant.

Ond doedd ei gyfnod cynnar ddim yn ysgubol o bell ffordd. Yn ei 24 ymddangosiad cyntaf i Spurs, ni wnaeth y tîm ennill yr un gêm.

Ond yn dilyn ei fuddugoliaeth gyntaf yn erbyn Burnley yn nhymor 2009/10, fe gododd Bale i'r uchelfannau'n sydyn.

Dechreuodd y byd sylwi arno pan sgoriodd hat-tric wrth i Spurs golli o 4-3 yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Internazionale yn Milan.

Buan iawn y dechreuodd sibrydion am drosglwyddiad posib i un o glybiau mawr Ewrop, a soniodd Bale yn 2011 am ei barch tuag at Real Madrid gan ychwanegu nad oedd arno ofn mynd dramor.

O ystyried nad yw Cymru wedi llwyddo i gymhwyso ar gyfer un o'r prif bencampwriaethau pêl-droed ers degawdau, mae'n debyg bod y cyfle i chwarae ar y lefel clwb uchaf posib wedi ei ddenu i'r Estadio Santiago Bernabeu.

Er i Spurs fynnu i ddechrau nad oedd ar werth, mae Real wedi dyfalbarhau ac wedi llwyddo i gyrraedd y nod yn y pen draw.

Mae Bale yn cael ei weld fel eicon nesaf y clwb gan ddilyn ôl troed mawrion y gamp fel Zinedine Zidane, Cristiano Ronaldo, Luis Figo a Raul Gonzalez.

Fe fydd yn fyd gwahanol i'r bachgen o Gaerdydd.