Byd y Bale: bywyd yn y Bernebeu

  • Cyhoeddwyd
Mark Hughes, Ian Rush a John CharlesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale yn dilyn ôl traed Mark Hughes, Ian Rush a John Charles - ymysg eraill - i chwarae ar y cyfandir

Gyda Gareth Bale o'r diwedd wedi cwblhau ei drosglwyddiad i Real Madrid, beth fydd yn ei wynebu yn Sbaen ar y cae, ac oddi arno?

Does dim llawer o Gymry wedi chwarae i glybiau mawr Ewrop dros y blynyddoedd, ond ar un cyfnod roedd dau yn gwneud hynny ar yr un pryd - Mark Hughes yn Barcelona ac Ian Rush yn Juventus yn Turin, Yr Eidal.

Llwyddiant Hughes a Rush oedd un o'r pethau arweiniodd at y syniad o greu rhaglen chwaraeon ar S4C oedd â phwyslais ar bêl-droed Ewropeaidd - Sgorio.

Ond fel dywedodd un o sylwebwyr cynta'r rhaglen, sydd bellach yn aelod o'r tîm cynhyrchu - Emyr Davies - fe ddaeth y ddau yn ôl i Brydain cyn i'r rhaglen gyntaf gael ei darlledu y flwyddyn ganlynol.

'Egos mawr'

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Davies yn holi un o fawrion hanes Real Madrid, Raul Gonzalez

Dywedodd: "Y peth cyntaf sy'n rhaid i Gareth Bale wneud yw sefydlu ei hunan fel seren ar y cae.

"Mae tîm Real Madrid yn cael eu hadnabod fel y 'Galacticos' am reswm - lot o egos mawr a lot o sêr y gamp.

"Yr unig ffordd i Bale sefydlu ei hunan yw ennyn parch ei gyd-chwaraewyr yn y tîm a deall y ffordd y mae'r tîm yn chwarae ac addasu i hynny."

Fe fydd y wasg yn Sbaen yn her wahanol i Bale hefyd. Wrth gwrs mae'r papurau newydd mawr ym Mhrydain yn cyhoeddi straeon am bêl-droedwyr amlwg, ond mae hynny ar lefel wahanol yn Sbaen.

Teithiodd Emyr Davies i Sbaen i sylwebu yn y Bernebeu droeon dros y blynyddoedd, a gweld dros ei hun faint o sylw y mae'r gamp yn ei chael yno: "Mae ganddyn nhw bapurau newydd, fel Marça er enghraifft, sy'n cynnwys dim byd ond chwaraeon, a phêl-droed yn bennaf.

"Maen nhw'n gallu llenwi tudalen flaen gyda rhyw sylw di-nod - y dydd o'r blaen y cyfan oedd ar y dudalen oedd sylw gan asiant Gareth Bale yn dweud bod 'dim byd wedi newid' yn ymwneud â'r trosglwyddiad - felly mae lefel y sylw cryn dipyn yn uwch.

"I fod yn deg i bapurau fel yna, maen nhw'n dueddol o ganolbwyntio'n llwyr ar faterion ar y cae, a ddim yn mynd ar ôl y straeon ymylol am fywydau personol y chwaraewyr ar y cyfan.

"Wedi dweud hynny, os nad yw'r perfformiadau ar y cae yn cyrraedd y disgwyliadau, nhw fydd y cyntaf i adael iddo fe wybod hynny."

Siarad yr iaith

Yn ystod ei gyfnod yn Yr Eidal, honnwyd i Ian Rush ddweud bod gweithio yn Turin "like being in a foreign country", a hwyrach fod methiant rhai pel-droedwyr o Brydain i ddysgu ieithoedd yn rhugl wedi bod yn rhwystr iddyn nhw eu gyrfaoedd mewn gwledydd eraill.

"Yn sicr os fydd Bale yn llwyddo, neu o leiaf yn dangos parodrwydd, i ddysgu Sbaeneg fe fydd hynny'n gymorth mawr iddo fe nid yn unig gyda'r wasg ond ymysg ei gyd-chwaraewyr," meddai Emyr.

"Pan oedd yn rheoli yno fe ddysgodd John Toshack (cyn-reolwr Real Madrid) i siarad Sbaeneg, ac fe ddaeth yn llwyddiant mawr. Ond mae'n wahanol i chwaraewr nag i reolwr, ac mae'n bwysicach i Bale wneud hynny cyn gynted ag y gall e."

Un chwaraewr o Gymru a lwyddodd i wneud ei farc ar y cyfandir oedd John Charles yn y 1950au. Mae'n dal i gael ei gofio'n gynnes gan gefnogwyr Juventus fel un o'r chwaraewyr gorau erioed i wisgo crys du a gwyn enwog y clwb.

Os wnaiff Gareth Bale lwyddo i greu hanner cymaint o argraff gyda Real Madrid, efallai y bydd Cymru'n medru ymffrostio bod ganddynt un o fawrion hanes y gamp ymysg eu rhengoedd am flynyddoedd i ddod.