Tic Toc Medd y Cloc
- Cyhoeddwyd
- comments
Mae'r tymor gwleidyddol newydd ar ddechrau ac ydy, mae'r clock yn dechrau tician ar gyfer yr etholiad mawr nesaf - etholiad cyffredinol 2015. Eisoes mae hwnnw'n dechrau chwarae ar feddyliau aelodau'r dosbarth gwleidyddol a'r newyddiadurwyr sy'n heidio o'u cwmpas.
Yn anffodus mae "countdown" yn rhan o'r jargon newyddiadurol sy ddim yn cyfieithu'n hawdd i'r Gymraeg. Prynaf beint i unrhyw un sy'n gallu bathu term addas - ac mae'n wobrau hefyd i bwy bynnag all gyfieithu "watchdog" a "victim"!
Ta beth am hynny heb os mae "countdown" 2015 wedi cychwyn. Mae'r rhan fwyaf o'r ymgeiswyr allweddol wedi eu dewis a'r pleidiau'n dechrau meddwl am gynnwys eu maniffestos a'u tactegau etholiadol.
Lle mae pethau'n sefyll ar ddiwedd yr haf felly? Yr ateb syml, am wn i, yw bod y tair plaid fawr Brydeinig i gyd wedi eu clwyfo rhywfaint - Llafur gan y cyfnod hwnnw lle'r oedd hi'n ymddangos bod ei harweinydd wedi diflannu i rywle a'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol gan y slapad seneddol ynghylch Syria.
Mae'n gyfnod bach rhyfedd yn ein gwleidyddiaeth lle nad oes 'na ffefryn i ennil etholiad - bron fel pe bai ni wedi cyrraedd carreg filltir lle mae seneddau crog yn ymddangos yn fwy tebygol 'na seneddau mwyafrifol.
Prin yw'r rheiny sy'n fodlon proffwydo mwyafrif yn 2015 oni cheir gwyrth i un blaid neu lanast gan un arall. Gallasai'r naill beth neu'r llall ddigwydd ond does dim arwydd o hynny ar hyn o bryd.
Yr hyn sy'n ddiddorol i mi yw bod hi'n bosib dychmygu'r etholiad nesaf yn cynhyrchu senedd grog go iawn - hynny yw un lle nad yw unrhyw ddwy blaid gyda'i gilydd yn gallu ffurfio mwyafrif.
Roedd y system bleidleisio 'cyntaf i'r felin' arfer gwneud canlyniadau felly'n hynod o annhebygol ond byddai ond angen i'r Democratiaid Rhyddfrydol golli seddi i Lafur a'r SNP tra'n dal eu tir yn erbyn y Torïaid i hynny ddigwydd tro nesaf. Twlwch ambell i fuddugoliaeth i Ukip a'r Gwyrddion i mewn i'r mics a gallwn ni fod mewn sefyllfa hynod ddiddorol.
Pam trafod canlyniadau posib etholiad gyda deunaw mis i fynd? Mae 'na reswm dros wneud hynny. Fe fydd y canfyddiadau o ganlyniadau posib yn dylanwadu ar dactegau pleidiau a'u dulliau ymgyrchu dros y deunaw mis nesaf.
Rwy'n meddwl fy mod i'n saff i ddweud mai etholiad 2015 fydd angladd y "swingometer". Mae'r creadur druan wedi bod yn glwc byth ers i'r system ddwy blaid droi'n system ddwy blaid a hanner yn y 1980au ond os nad oes 'na ddaergryn tebyg i un '97 rwy'n meddwl bod yr hynny o werth oedd ar ôl wedi diflanu erbyn hyn.
Oes unrhyw un yn disgwyl un gogwydd unffurf ar draws y Deyrnas Unedig yn 2015? Go brin. Oes unrhyw un yn credu na welwn ni patrymau pleidleisio cwbwl gwahanol i'w gilydd mewn gwahanol ranbarthau ac etholaethau? Dydw i ddim wedi cwrdd â neb.
Mae hynny'n golygu y bydd yr ymgyrchu lleol yn 2015 yn bwysicach na mae hi wedi bod ers cenedlaethau - a hynny ar adeg pan mae trefniadaeth leol y pleidiau yn hanesyddol wan.
Does dim rhyfedd bod 'na deimlad o bryder os nad panig ymhlith gwleidyddion o bob plaid!