O Fhlùir na h-Alba
- Cyhoeddwyd
- comments
Roeddwn i'n gyrru'r dydd o'r blaen lan o Bontardawe i gyfeiriad Brynaman trwy ran o Gymru a adwaenwyd ar un adeg fel "Annibynia" oherwydd nifer capeli'r Annibynwyr yn y cylch - Carmel, Hen Garmel, Tabernacl, Saron, Capel y Baran ac eraill.
Mae rhai wedi cau ers tro, eraill yn hongian ymlaen ond es heibio i un oedd yn edrych mewn cyflwr rhyfeddol o dda. O ofyn, ces esboniad. "Maen nhw wedi cael grant ond dim ond deg sy'n mynd yna" meddai un ddylai wybod. Wel, dyna i chi fetaffor am gyflwr rhai o'n sefydliadau Cymraeg!
Os ydy pethau'n wael arnom ni, cymerwch eiliad i ystyried sefyllfa Gaeleg yr Albanwyr. Heddiw cyhoeddwyd ystadegau'r cyfrifiad ynghylch yr iaith sy'n dangos bod y nifer sy'n siarad yr iaith wedi gostwng o 59,000 i 58,000 rhwng 2001 a 2011.
Mae'r dirywiad wedi gostegu rhywfaint a chafwyd cynnydd bychan yn nifer y siaradwyr ifanc. Serch hynny dyw pethau ddim yn argoeli'n dda gyda dim ond ychydig dros hanner trigolion ynysoedd Heledd, cadarnle traddodiadol yr iaith, yn gallu ei siarad hi yn 2011.
Mae Llywodraeth yr Alban yn mynnu bod y "Cynllun Iaith Cenedlaethol" yn dechrau cael effaith gan dynnu sylw at y ffaith bod Ysgol Gynradd Aeleg gyntaf Caeredin newydd agor. Digon teg - ond mae 'na ddeunaw o ysgolion cynradd Cymraeg yn ein prifddinas ni!
Pwynt gwatwarus yw hwnnw ac nid fy mwriad yn fan hyn yw dilorni ymdrechion ymgyrchwyr iaith yr Alban nac esgus bod y Gymraeg yn gryfach nac yw hi.
Serch hynny mae'n werth oedi weithiau i nodi bod ymgyrchwyr dros y Gymraeg wedi ennill buddugoliaethau pwysig ar hyd y blynyddoedd ac oni bai am y buddugoliaethau hynny fe fyddai sefyllfa'r Gymraeg llawer yn wanach nac yw hi.