Arddangosfa'n cofio trychineb Senghennydd

  • Cyhoeddwyd
Tower men Leaving gan Valerie Ganz
Disgrifiad o’r llun,

Mae arddangosfa newydd yn Y Galeri yng Nghaerffili yn nodi can mlynedd ers trychineb Senghennydd pan laddwyd 439 o weithwyr wedi ffrwydrad.

Bound by a Rope of Smoke gan David Carpanini
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arddangosfa, The Price of Coal, yn cynnwys gwaith gafodd ei ysbrydoli gan gymunedau glofaol.

Miners Taking a Break gan Valeri Ganz
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith pedwar artist yn cael ei ddangos, sef David Carpanini, Valerie Ganz, Osi Rhys Osmond a'r diweddar Nicholas Evans.

Awaiting News of Disaster gan Nicholas Evans
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Nicholas Evans ei dad mewn damwain mwyngloddio ac mae ei waith yn dangos y dioddefaint ym mywydau glowyr a'r cymunedau glofaol.

South Winder, The Avon gan David Carpanini
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau eraill yn yr arddangosfa yn dylunio tirwedd ddiwydiannol de Cymru.

Face Worker gan Valerie Ganz
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd trychineb Senghennydd effaith enfawr ar y gymuned, gan adael 205 o wragedd heb wŷr, 62 o rieni heb feibion a thros 500 o blant heb dad.

Winter in the Hills gan David Carpanini
Disgrifiad o’r llun,

Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal i gofio'r trychineb, a ddigwyddodd ar Hydref 14 1913.

Clancey gan Valerie Ganz
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arddangosfa yn Y Galeri yng Nghaerffili o Hydref 8 tan Tachwedd 2. Mae Y Galeri ar agor 10am - 5pm, dydd Mawrth tan ddydd Sadwrn.

Hefyd gan y BBC