Jacpot

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Rwy'n meddwl taw'r rhaglen deledu waethaf i mi wylio erioed oedd honno lle dynnwyd peli'r loteri am y tro cyntaf yn 1994. Am ryw reswm darllediad allanol o hen lofa Lewis Merthyr yn y Rhondda oedd y rhaglen gyda Noel Edmunds wrth y llyw. Oes angen dweud mwy? Fe fyddai Tipit a Fferm Ffactor yn ymddangos yn soffistigedig ac athrylithgar o'u cymharu â hon!

Ta beth, er da neu er drwg, mae loteri John Major wedi bod gyda ni ers bron i ugain mlynedd gan godi symiau sylweddol o arian ar gyfer "achosion da". Mae 'na sylwedd i'r ddadl bod 'na elfen o "dreth ar y tlawd" yn perthyn i'r peth ond pwy all ddadlau nad yw nifer o brosiectau gwerth chweil wedi derbyn cymorth?

Yr wythnos hon fe fydd pris rhes o rifau yn y brif loteri yn dyblu gyda'r nod o godi rhagor o arian i achosion da - a rhagor o elw i gwmni Camelot, wrth reswm.

Ond oni ddylai 'na fod hen ddigon o arian ar gyfer achosion da'r dyddiau hyn? Wedi'r cyfan does dim rhaid aberthu ar allor aur Gemau Olympaidd Llundain bellach. Oni ddylai'r galw ar y cronfeydd fod yn lleihai?

Y gwrthwyneb sy'n wir.

Y rheswm am hynny yw'r hyn sydd wedi digwydd i lywodraeth leol yn Lloegr ac sydd ar fin digwydd i gynghorau Cymru.

Wrth i'n cynghorau wynebu toriadau real o 9% dros y ddwy flynedd nesaf fe fydd 'na ymdrech i ddiogelu rhai o'r gwasanaethau trwy eu trosglwyddo i ddwylo elusennau, cymdeithasau gwirfoddol a chyrff allanol eraill.

Dyna ddigwyddodd yn Lloegr a wedi'r cyfan os nad oes gan gyngor yr arian i redeg llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid ac yn y blaen onid ywm hi'n gwneud synnwyr perffaith i wneud hynny?

Ond at bwy y mae'r darparwyr newydd am droi am gyllid? Yr ateb mewn sawl achos yw cronfeydd y loteri.

Os ydych chi'n un o'r rheiny sy'n hoffi beio George Osborne am bopeth - wel dyma chi gyfle i chi ei ddiawlio wrth brynu eich "lucky dips"!

Ond mae 'na bwynt mwy difrifol yn fan hyn. Yn ôl ymchwil academaidd y bobl sy fwyaf tebygol i chwarae'r loteri yw pobl dosbarth gwaith a phobol sy'n derbyn budd-daliadau - dosbarthiadau C2 a DE yng nghod y Cymdeithasegwyr.

Dydw i ddim yn broffwyd ond rwy'n fodlon mentro mai mewn cymunedau dosbarth canol y bydd hi hawsaf ddod o hyd i wirfoddolwyr i redeg gwasanaethau ac y bydd hi'n llawer anoddach eu cynnal mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae'n bosib felly ein bod yn symud o sefyllfa lle mae trethi'r cefnog yn cynnal gwasanaethau'r tlawd i un lle mae arian loteri'r difreintiedig yn cynnal gwasanaethau'r cysurus eu byd.

Neu ydw i wedi camddeall rhywbeth?