Pris y Farchnad

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Oce, roedd hi'n wlyb a doedd dim byd gwell gen i wneud. Ddoe allan o ddiddordeb gwnes i bori are wefan healthcare.gov , dolen allanol- y cynllun iechyd newydd sydd wedi achosi cymaint o gythrwbl yn yr Unol Daleithiau. Hwn yw'r "Obamacare" bondigrybwyll yr oedd Y Gweriniaethwyr yn fodlon peryglu'r economi byd eang mewn ymdrech i'w rwystro.

Sut mae'r cynllun gofal iechyd ym Mala Cynnwyd, Pennsylvania yn cymharu â'r Bala, felly? Wel marchnad yw Obamacare gyda chyflenwyr preifat yn cynnig cynlluniau yswiriant. Fe fydd prynu yswiriant yn orfodol i bawb ac eithrio'r rheiny sy'n derbyn gofal o dan gynlluniau Medicare a Medicaid oherwydd eu tlodi neu eu hoedran.

Mae'r cynllun rhataf sydd ar gael i deuluoedd Bala Cynnwyd yn costi $576 y mis - rhyw dri chant a hanner o bunnau. Fe fydd hwnnw ond yn talu llai na 60% o unrhyw gostau meddygol.

Does dim un o'r cynlluniau yn cynnig talu'r cyfan o gost unrhyw driniaeth. Y gorau y gellir ei gael yw cynllun "platinwm" sy'n talu 90% o'r gost. $1011.86 - rhyw £620 y mis yw pris y rhataf o'r rheiny sydd ar gael ym Mala Cynnwyd.

Mae trigolion ein Bala ni wedi arfer a chael y cyfan o'u triniaeth am ddim. Mae 'na gost, wrth reswm, ond allan o drethi cyffredinol y mae'r 5.97 biliwn o bunnau y bydd Gwasanaeth Iechyd Cymru yn costi flwyddyn nesaf yn dod.

Rwy'n amau na fydd neb yn y Bala yn dymuno gweld cyfundrefn fel un Bala Cynnwyd yn cael ei chyflwyno yn fan hyn. Ond yn ogystal â chost ariannol y GIG mae 'na bris arall yr ydym yn talu am ein cyfundrefn iechyd gwladoledig.

Dogni yw'r pris hwnnw. Hynny yw mae'r penderfyniadau ynghylch pa driniaethau i'w cynnig a pha mor hir sy'n aros am driniaeth yn cael eu gwneud gan eraill - yn feddygon, yn rheolwyr ac yn wleidyddion.

Fe ddywedodd Margaret Thatcher un tro ei bod hi'n prynu yswiriant preifat er mwyn mynd i mewn i'r ysbyty "on the day I want; at the time I want, and with a doctor I want".

Mae pobl Bala Cynnwyd yn cael y dewis yna - ond ydy hynny gwerth $576 y mis, Wa?