Croeso Wncwl Sam!
- Cyhoeddwyd
- comments
Gyda llygaid pawb ar ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i argymhellion Comisiwn Silk wythnos ddiwethaf, bychan oedd y sylw a roddwyd i'r cyhoeddiad y bydd uwch-gynhadledd NATO yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd flwyddyn nesaf.
Croesawyd y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru gyda'r ystrydeb arferol ynghylch "rhoi Cymru ar y map".
Rwy'n tueddu fod yn sinig ynghylch y digwyddiadau "rhoi ar fap" yma. Medrwch chi enwi lle y cynhaliwyd Womex y llynedd neu Uwch-gynhadledd ddiwethaf NATO?
Na, na fi chwaith!
Nid bod hynny'n golygu nad yw'r digwyddiad gwerth ei gael. Yn ôl astudiaeth, dolen allanol gan gwmni Deloitte fe gyfrannodd uwch-gynhadledd NATO yn Chicago y llynedd rhyw gant ac ugain o filiynau o ddoleri i economi'r ddinas gyda rhyw 22,000 o bobol yn llogi ystafelloedd mewn gwestai'r dalaith.
Hwn hefyd fydd y tro cyntaf i un o Arlywyddion yr Unol Daleithiau ymweld â Chymru ac yntau yn y swydd.
Mae tri ohonyn nhw wedi bod yma cyn hyn ond ym mhob achos roedd hynny naill cyn neu ar ôl eu cyfnod yn y Tŷ Gwyn neu cyn hynny.
John F Kennedy, Jimmny Carter a Bill Clinton yw'r tri dan sylw. Fe fynychodd Kennedy Eisteddfod Caerdydd yn 1938 yng nghwmni ei dad oedd yn llysgennad ar y pryd.
Daeth Carter yma i bysgota ar afon Tywi gan ymweld â Soar y Mynydd a chartref Dylan Thomas yn Nhalacharn.
Ymweld â Gŵyl y Gelli wnaeth Bill Clinton - a hynny am ffi anferthol wnaeth ddod yn agos at roi diwedd ar yr ŵyl unwaith ac am byth. Roedd cytundeb yr Arlywydd yn mynnu bod rhaid talu'r ffi doed a ddelo ac wrth i glwyf traed a'r genau ysgubo'r wlad roedd 'na beryg y byddai'r ŵyl yn cael ei chanslo. Er mawr ryddhad i'r trefnwyr ni ddigwyddodd hynny!
Gallwn fod yn sicr na fydd cost uwch-gynhadledd Casnewydd yn peryglu dyfodol ariannol NATO!
Fe fydd 'na dipyn o faich ariannol ar Lywodraeth Cymru ond tipyn llai na fyddai 'na pe bai gwasanaethau'r heddlu wedi eu datganoli. Efallai bod Carwyn Jones yn falch nad yw'r deisyfiad yna wedi ei wireddu eto!